Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Hysbysiadau newid etholiad
Hysbysiadau newid etholiad
Dim ond i'r gofrestr/cofrestrau ar gyfer etholiad penodol y mae hysbysiad newid etholiad interim yn berthnasol. Mae'r hysbysiad etholiad interim hwn yn ychwanegu neu'n dileu cofnodion ar y gofrestr etholiadol ar gyfer cyfeiriadau yn yr ardal etholiadol y mae'r etholiad yn effeithio arni.
Er enghraifft, ar gyfer etholiad llywodraeth leol sy'n cael ei gynnal mewn un rhan o ardal gofrestru yn unig, dim ond i benderfyniadau a wneir erbyn y dyddiad cau gofynnol ar gyfer yr etholiad yn yr ardal honno y bydd yr hysbysiadau hyn yn berthnasol, ac yn yr achos hwn, dim ond i'r gofrestr llywodraeth leol y bydd y newidiadau hynny yn cael eu gwneud.
Dim ond pan geir yr hysbysiad newid misol nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gynharaf, y bydd penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gofrestr seneddol, neu benderfyniadau y tu allan i'r ardal y mae'r etholiad yn effeithio arni, eu nodi, yn dod i rym.
Mae gofyniad i gyhoeddi tri hysbysiad newid etholiad interim pan gaiff etholiad ei gynnal:1
- yr hysbysiad etholiad interim cyntaf ar y diwrnod olaf y gall papurau enwebu gael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau
- yr ail hysbysiad etholiad interim ar ddyddiad a bennir gennych chi – rhaid ei gyhoeddi ar ôl yr hysbysiad cyntaf a chyn yr hysbysiad etholiad terfynol
- yr hysbysiad newid etholiad interim terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais2
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais mewn da bryd er mwyn iddo ymddangos ar yr hysbysiad newid etholiad interim terfynol yw hanner nos, 12 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.3
Yr unig eithriadau i hyn yw ceisiadau cofrestru dienw, y gellir eu derbyn hyd at chwe diwrnod gwaith cyn y bleidlais, ac nid ydynt yn amodol ar y cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod.
Bydd angen bod trefniadau ar waith gennych er mwyn gwybod a yw cais wedi cyrraedd cyn y dyddiad cau ai peidio.
Mae'r tabl canlynol yn nodi'r amserlen ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau mewn da bryd i'w cynnwys yn yr hysbysiad newid etholiad terfynol:4
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu; dyddiad cau ar gyfer dileu; dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau cofrestru dienw a phenderfynu arnynt | Y diwrnod gwaith cyn y dyddiad cyhoeddi |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (ceisiadau newydd a diwygiadau i gofnodion presennol) | Chwe diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu |
Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad newid terfynol | Y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais |
Bydd yn rhaid i chi ddarparu diweddariadau i'r rhai y mae ganddynt hawl i'w derbyn yn ôl y gyfraith.5 Mae'r rhain yn cynnwys ymgeiswyr ac asiantiaid y bydd eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl, felly dylech sicrhau eu bod yn cael eu darparu'n brydlon.
I gael rhagor o wybodaeth am weld y gofrestr lawn a'i chyflenwi, gweler ein canllawiau ar gyflenwi copïau o'r gofrestr lawn.
- 1. Adrannau 13AB(5) a (6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 13B(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adrannau 13B(1)-(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Rheoliad 29(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adrannau 13AB(1)-(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 3, Rheoliad 29(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 7(5)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 5