Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer asiantiaid cyfrif er mwyn iddynt oruchwylio'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau, a rhoi gwybodaeth berthnasol iddynt.
Yn arbennig, mae'r gyfraith yn nodi, lle caiff pleidleisiau eu cyfrif drwy ddidoli'r papurau pleidleisio fesul ymgeisydd wedyn cyfrif pob set o bapurau pleidleisio, bod gan yr asiantiaid cyfrif hawl i ddisgwyl bod y papurau pleidleisio wedi'u didoli'n gywir1
.
Rhaid i chi hysbysu asiantiaid cyfrif yn ysgrifenedig o'r amser y byddwch yn dechrau dilysu a chyfrif pleidleisiau a'r lleoliad2
.