Mae arsylwi etholiadol yn rhan ddilys a gwerthfawr o'r broses etholiadol a dylid gofalu na chaiff arsylwyr eu rhwystro na'u hatal rhag arsylwi.
Er y caniateir i chi ofyn i arsylwr adael am gamymddwyn, a/neu gyfyngu ar nifer yr arsylwyr a all fod yn bresennol ar unrhyw adeg yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif,1
dylech fod yn ofalus wrth wneud hynny.
Nid oes gennych hawl i rwystro pob arsylwr rhag bod yn bresennol wrth ddilysu a chyfrif, dim ond cyfyngu ar nifer yr arsylwyr sy'n bresennol ar unrhyw adeg, a dylech ddefnyddio'r disgresiwn hwn mewn modd rhesymol.
Os byddwch yn atal mynediad, neu'n gofyn i arsylwr achrededig adael y prosesau dilysu neu gyfrif, dylech sicrhau bod trywydd archwilio er mwyn cefnogi eich penderfyniad. Mae cofnod cyfyngiadau mynediad ar arsylwyr enghreifftiol ar gael at y diben hwn.
Wrth reoli presenoldeb arsylwyr rhaid i chi ddilyn Cod ymarfer y Comisiwn i arsylwyr.2
Os cewch unrhyw broblemau gydag arsylwyr sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif, cysylltwch â'ch tîm lleol yn y Comisiwn cyn gynted â phosibl.
Llyfryn Arsylwyr yn etholiadau'r DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu'r mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Cynrychiolwyr y Comisiwn
Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn yr hawl i fod yn bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif ac arsylwi ar eich arferion gwaith.3
Gallant ofyn cwestiynau i'ch staff ac asiantiaid, ond ni wnânt hynny os byddai'n amharu neu'n aflonyddu ar y gweithrediadau.
Ni chewch gyfyngu ar nifer y cynrychiolwyr o'r Comisiwn yn y prosesau dilysu a chyfrif.4
3. Adrannau 6A a 6B PPERA 2000; Paragraffau 48(4)(f) a 51(4)(f) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 3