Ar ôl i'r holl bapurau pleidleisio gael eu didoli ac ar ôl i ddyfarniadau ynglŷn ag unrhyw bleidleisiau amheus gael eu gwneud, gall y dasg allweddol o gysoni ddechrau.
Rhaid i chi gyfrif yr holl fwndeli a'r bwndeli rhannol o bapurau pleidleisio sy'n dangos pleidlais ddilys ar gyfer pob ymgeisydd.
Yna rhaid i chi adio'r cyfanswm ar gyfer pob ymgeisydd at gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd. Dylai'r cyfanswm hwn gyfateb yn union i'r ffigur sy'n rhoi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio a gafwyd ar ddiwedd y broses ddilysu.
Dylech fod yn fodlon bod y canlyniadau neu'r cyfansymiau (fel y bo'n briodol) yn adlewyrchu'r papurau pleidleisio a gafwyd. Os nad yw'r ffigurau yn gyson, dylech gymryd camau i nodi'r anghysondeb a datrys y broblem, er enghraifft drwy:
edrych yn y man storio a sicrhewch fod yr holl flychau pleidleisio wedi cael eu hagor a'u bod yn wag
edrych ar y lloriau a'r arwynebau rhag ofn bod papurau pleidleisio wedi cael eu gollwng yn lleoliad y cyfrif
edrych eto ar y ffigurau dilysu a'r ymarfer cysoni rhag ofn eu bod yn cynnwys camgymeriadau cyfrifo
sicrhau eich bod wedi cyfrif am bob papur pleidleisio a wrthodwyd
sicrhau bod yr holl fwndeli a bwndeli rhannol wedi cael eu cyfrif
ystyried ailgyfrif y papurau pleidleisio yn y bwndeli
Dylech hefyd wneud unrhyw wiriadau eraill sy'n angenrheidiol, yn eich barn chi.