Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Datgan y canlyniad

Rhaid i chi baratoi datganiad yn nodi enw pob ymgeisydd, cyfanswm y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a roddwyd o dan bob pennawd.1

Ar ôl i chi baratoi'r datganiad, rhaid i chi ddatgan canlyniad yr etholiad.

Wrth gynllunio ar gyfer datgan canlyniad, dylech wneud y canlynol:

  • penderfynu ar yr union fan yn lleoliad y cyfrif lle y dylid cyhoeddi gwybodaeth a gwneud y datganiad a phwy fydd ar y llwyfan ar yr adeg hon
  • sicrhau y gall y rhai y mae angen iddynt gyrraedd y llwyfan wneud hynny'n hawdd
  • ystyried a allwch ddefnyddio'r byrddau arddangos i gynnig cefndir addas i gyhoeddi'r canlyniadau 
  • gwirio unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoeddiad cyn i'r gweithrediadau ddechrau
  • gwirio ddwywaith fod y canlyniad yn gywir, a'i fod wedi'i ysgrifennu ar ffurf geiriau ar gyfer rhoi'r canlyniad ar lafar er mwyn osgoi unrhyw wallau – efallai y bydd angen i chi ailadrodd y datganiad fel y gall y rhai sy'n bresennol glywed y manylion yn glir, yn enwedig os bydd y sawl sy'n bresennol yn swnllyd
  • ystyried sut y byddwch yn rhoi copi ysgrifenedig o'r canlyniadau i gynrychiolwyr y cyfryngau sy'n bresennol ar yr adeg y gwneir y cyhoeddiad oherwydd bydd hyn yn eu helpu i sicrhau eu bod yn trosglwyddo'r ffigurau yn gywir 
  • sicrhau eich bod yn dilyn y gofyniad i hysbysu'r cyhoedd o enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr a etholwyd, cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd2   

Pan fydd ymgeisydd wedi defnyddio’i enw a ddefnyddir yn gyson i sefyll mewn etholiad, dylech ddefnyddio’i enw llawn a’i enw a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniad er mwyn darparu tryloywder ynghylch yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad.

Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddefnyddio’i enw llawn a’i enw a ddefnyddir yn gyffredin, a gallwch benderfynu ar y dull i’w gymryd wrth ddatgan canlyniadau. Pa bynnag ddull a ddilynir, dylech sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer pob ymgeisydd ac yn ymgymryd ag unrhyw wiriadau ychwanegol sy’n angenrheidiol ar waith papur dilysu a chyfrif er mwyn sicrhau bod enwau’r ymgeiswyr yn ymddangos yn yr un drefn â’r hyn sydd wedi’i nodi ar y papur pleidleisio.

Unwaith y byddwch wedi cyhoeddi'r canlyniad yn y broses gyfrif, bydd yn derfynol ac ni ellir ei newid. Dylech felly sicrhau mai'r canlyniad cywir rydych yn ei ddatgan.

Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth gyhoeddi'r canlyniad ar lafar gallwch gywiro hyn, ar yr amod y'i gwneir ar unwaith.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roi hysbysiad o'r canlyniad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mehefin 2024