Dylech agor pob blwch gan sicrhau y gall unrhyw asiantiaid sy'n bresennol weld yn glir. Pan fydd asiant wedi atodi sêl i flwch, dylech gymryd gofal mawr i ddangos i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol fod y sêl hon heb ei thorri cyn iddi gael ei thorri.
Dylai pob proses gyfrif fod yn dryloyw. Dylech hefyd gynnig cyfleoedd priodol i'r rhai sydd â'r hawl i arsylwi a gwrthwynebu dyfarniadau ar bapurau pleidleisio amheus. Dylai hyn gynnwys sicrhau eich bod yn storio bwndeli o bapurau pleidleisio wedi'u cyfrif yng ngolwg asiantiaid cyfrif er mwyn eu galluogi i fonitro cynnydd drwy gydol y broses gyfrif.
Cymysgu
Rhaid i chi gymysgu'r papurau pleidleisio er mwyn sicrhau bod papurau pleidleisio o bob blwch pleidleisio wedi'u cymysgu â phapurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf, a chymysgu'r papurau pleidleisio post â phapurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf cyn didoli a chyfrif y pleidleisiau1
.
Didoli a chyfrif
Rhaid i bapurau pleidleisio wynebu i fyny drwy gydol y broses gyfrif er mwyn atal unrhyw un rhag gweld y rhif a'r marc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio. Dylai'r papurau pleidleisio fod yn weladwy drwy'r amser i unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol.2
Dylai cynorthwywyr cyfrif ddidoli'r papurau pleidleisio yn bleidleisiau ar gyfer pob ymgeisydd. Dylai unrhyw bapurau pleidleisio amheus gael eu rhoi o'r neilltu er mwyn dyfarnu yn eu cylch.
Dylid cyfrif nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a'u rhoi mewn bwndeli o nifer rhagnodedig, e.e. bwndeli o 20, 25, 50 neu 100.
Dylent atodi slip ag enw'r ymgeisydd arno, ynghyd â nifer y papurau pleidleisio yn y bwndel, ar y blaen. Efallai y byddai lliwiau gwahanol ar gyfer y slipiau yn ddefnyddiol. Yna dylai'r bwndeli gael eu hailgyfrif gan gynorthwyydd cyfrif arall er mwyn sicrhau cywirdeb y bwndel.
Dylai goruchwylwyr fwrw golwg dros y bwndeli er mwyn sicrhau bod yr holl bleidleisiau yn y bwndel wedi'u marcio yn yr un ffordd cyn mynd ag unrhyw fwndeli oddi wrth y staff cyfrif.
Mae'n annhebygol y bydd nifer y pleidleisiau yn y bwndel olaf yn hafal i nifer rhagnodedig y bwndel, ac felly dylech wneud nodyn o nifer y pleidleisiau yn y bwndeli anghyflawn hynny a'i atodi ar flaen y bwndel.
Dylech roi unrhyw bapurau pleidleisio amheus o'r neilltu er mwyn dyfarnu yn eu cylch.