Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Papurau pleidleisio amheus

Dylech ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus yn rheolaidd wrth i'r cyfrif fynd rhagddo: ni ddylid gadael hyn tan ddiwedd y broses gyfrif.  

Dylech ystyried llyfryn y Comisiwn ar bapurau pleidleisio amheus , a ddarperir isod, drwy gydol y broses ddyfarnu. Mae'r llyfryn yn cynnwys enghreifftiau o bleidleisiau a ganiateir a phleidleisiau a wrthodir a'r egwyddorion allweddol i'w dilyn wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, a gellir cael mynediad iddynt o'n tudalen hadnoddau ar gyfer yr adran hon

Gallwch hefyd ddod o hyd i enghreifftiau o bapurau pleidleisio a ganiateir a phapurau pleidleisio a wrthodir ar y mat bwrdd papurau pleidleisio amheus, y dylech ei arddangos yn y cyfrif er mwyn i ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr gyfeirio ato. 

Dyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus

Wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, dylech wneud y canlynol:

  • byddwch yn glir ac yn gyson bob amser
  • cymerwch amser i sicrhau y gwneir penderfyniad ystyriol ym mhob achos
  • penderfynwch a yw bwriad y pleidleisiwr yn ymddangos yn glir ar y papur pleidleisio

Fel rhan o hyn, bydd angen i chi:

  • ystyried y papur pleidleisio cyfan
  • ystyried a yw'r ffordd y cafodd papur pleidleisio ei farcio yn golygu bod pleidlais dros un ymgeisydd yn hollol amlwg.

Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu bod yn rhaid i chi wrthod papur pleidleisio1 :

  • nad yw'n cynnwys y marc swyddogol (nid y marc adnabod unigryw)
  • pleidlais dros fwy nag un ymgeisydd 
  • os bydd unrhyw beth wedi'i ysgrifennu neu wedi'i farcio arno sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr (ac eithrio rhif y papur pleidleisio argraffedig neu farc adnabod unigryw arall)
  • nad yw wedi'i farcio neu sy'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd

Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi, oni bai bod modd adnabod y pleidleisiwr oherwydd y ffordd y marciwyd y papur pleidleisio, na chaniateir gwrthod papur pleidleisio os yw bwriad y pleidleisiwr yn amlwg os yw'r bleidlais wedi'i marcio:2  

  • rywle arall yn hytrach na'r man priodol
  • mewn ffordd arall ar wahân i groes
  • drwy fwy nag un marc

Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd angen ystyried papurau pleidleisio ymhellach o dan yr amgylchiadau canlynol:  

  • os bydd papur pleidleisio yn cynnwys unrhyw beth anarferol (er enghraifft, ymddengys ei fod wedi'i newid, naill ai â theclyn ysgrifennu cwbl wahanol neu â hylif cywiro)
  • os bydd papur pleidleisio wedi'i rwygo neu ei ddifrodi

Gellir derbyn papurau pleidleisio sydd wedi'u rhwygo neu eu difrodi fel pleidlais ddilys ar yr amod bod y papur yn cynnwys y marc swyddogol o hyd a bod bwriad y pleidleisiwr yn glir ac nad yw'r un o'r rhesymau eraill dros wrthod papur pleidleisio yn gymwys.  

Cewch ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar sut i ddelio â phapurau pleidleisio wedi'u torri wrth agor pleidleisiau post.

Rhaid i chi benderfynu ynghylch dilysrwydd pob papur pleidleisio amheus ym mhresenoldeb ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr.  

Rhaid i'r rhai y datganwyd eu bod yn ddilys wedyn gael eu cyfrif a'u cynnwys yng nghyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros yr ymgeisydd/ymgeiswyr neu'r blaid briodol (fel y bo'n gymwys) yn yr etholiad.

Cofnodi papurau pleidleisio a wrthodwyd

Mae'ch penderfyniad ynglŷn ag unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol a dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir ei herio3 .  

Rhaid i chi lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ac am ba reswm. Felly, dylai fod gennych system ar waith drwy gydol y broses ddyfarnu ar gyfer didoli'r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y penawdau canlynol4 :    

  • dim marc swyddogol
  • yn pleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd
  • ysgrifen neu farc sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr
  • heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd

Dylech ystyried y llyfryn ar bleidleisiau amheus a'r mat bwrdd er mwyn sicrhau y caiff y pleidleisiau a wrthodir eu categoreiddio mewn ffordd gywir a chyson er mwyn eu cofnodi ar y datganiad.  

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi'r gair ‘gwrthodwyd’ ar bob papur pleidleisio a wrthodir a rhaid ychwanegu'r geiriau ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu eich penderfyniad.  

Er y dylai fod modd i arsylwyr arsylwi ar y broses hon, yn wahanol i asiantiaid, nid oes ganddynt hawl gyfreithiol i wrthwynebu penderfyniad i wrthod papur pleidleisio5

Dylech roi copi o'r datganiad gwrthod yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio a wrthodwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023