Dylech fod yn fodlon bod nifer y pleidleisiau dros bob ymgeisydd yn gywir cyn bwrw ymlaen â chanlyniad dros dro.
Dylai'r holl brosesau gael eu cynnal o fewn fframwaith mor agored a thryloyw â phosibl sy'n cael ei weithredu drwy amrywiol gamau'r broses gyfrif fel y gall pob ymgeisydd ac asiant ymddiried yn y prosesau a'r canlyniad dros dro a roddir gennych.
Pan fyddwch yn fodlon, dylech hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid etholiad o'r canlyniad dros dro a gofyn am eu cydsyniad i gyhoeddi'r canlyniad1
. Dylech egluro bod gan yr ymgeiswyr a'r asiantiaid yr hawl i ofyn am ailgyfrif.
Rhaid i chi roi digon o amser i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ystyried y canlyniad dros dro cyn bwrw ymlaen â datgan y canlyniad. Dyma'r adeg y gall unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiad wneud cais am i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif neu, ar ôl ailgyfrif, eu hailgyfrif eto2
.
Rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif ond yn ôl y gyfraith cewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.3
Fodd bynnag, cewch ystyried cynnig cyfle i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid archwilio'r bwndeli o bapurau pleidleisio fel ffordd o gael sicrwydd bod y canlyniad yn gywir.
Gweithdrefnau ailgyfrif
Os byddwch yn cytuno i ailgyfrif y pleidleisiau, dylech roi gwybod i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol yn y cyfrif cyn i'r broses ailgyfrif ddechrau a'u briffio ar y prosesau rydych yn bwriadu eu dilyn. Fel yn achos y broses gyfrif wreiddiol, dylech gynnal unrhyw broses ailgyfrif yng ngolwg y rhai sy'n bresennol. Mae gennych hawl i ailystyried pa bapurau pleidleisio y dylid eu gwrthod yn ystod y broses ailgyfrif (neu unrhyw broses ailgyfrif arall).
Rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ynglŷn â'r canlyniad dros dro diwygiedig yn yr un modd ag yr ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â'r canlyniad dros dro ar ôl i'r cyfrif cyntaf ddod i ben4
.
Mae modd cynnal mwy nag un broses ailgyfrif. Unwaith eto, rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif a chewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.