Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pleidleisiau cyfartal

Pan fydd gan ddau ymgeisydd neu fwy yr un nifer o bleidleisiau, a lle byddai ychwanegu pleidlais yn caniatáu datgan bod unrhyw un o'r ymgeiswyr hynny wedi'i ethol, rhaid i chi benderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy dynnu enwau ar hap.1  

Ystyrir bod pa ymgeisydd bynnag a ddewisir ar hap wedi cael pleidlais ychwanegol sy'n ei gwneud yn bosibl datgan ei fod wedi'i ethol.

Os bydd ymgeisydd eisoes wedi'i ethol â mwyafrif, nid oes angen i chi dynnu enwau ar hap er mwyn cysoni pleidleisiau cyfartal rhwng ymgeiswyr eraill sy'n is i lawr y rhestr o ganlyniadau.

Chi fydd yn penderfynu ar y dull o dynnu enwau ar hap. Mae'r enghreifftiau o brosesau tynnu enwau ar hap yn cynnwys y canlynol:

  • caiff papurau pleidleisio, y bydd pob un ohonynt wedi'i farcio â phleidlais ar gyfer un o'r ymgeiswyr sydd â'r un nifer o bleidleisiau, eu gosod mewn cynhwysydd, megis blwch pleidleisio gwag a'u cymysgu, yna caiff un ei dynnu gennych chi
  • caiff slipiau o bapur ag enwau'r ymgeiswyr arnynt eu gosod mewn amlenni wedi'u selio a'u cymysgu, yna caiff un ei dynnu gennych chi

Dylech wneud cyhoeddiad eich bod yn bwriadu mynd ati i dynnu enwau ar hap rhwng yr ymgeiswyr sydd â nifer cyfartal o bleidleisiau, gan egluro'n union beth sydd ar fin digwydd a'r dull a ddefnyddir.  

Dylai ymgeiswyr, asiantiaid, cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig fod yn bresennol yn ystod unrhyw waith paratoi ac yn ystod y broses o dynnu enwau ar hap.

Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio'r dull cyntaf a ddisgrifir uchod, dylech fynd ati, yng ngolwg unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid, ac ym mhresenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig, i blygu papur pleidleisio a gyfrifwyd yn flaenorol ar gyfer pob un o'r ymgeiswyr sydd â'r un nifer o bleidleisiau, a'i roi mewn blwch pleidleisio gwag. 

Dylai cynorthwyydd godi'r blwch i uchder lle na allwch weld y papurau y tu mewn i'r blwch, ond lle gallwch roi eich llaw i mewn a thynnu un allan o hyd. Ar ôl cymysgu, dylech dynnu un o'r papurau pleidleisio o'r blwch, ei agor a darllen enw'r ymgeisydd sydd â'r bleidlais wedi'i marcio yn erbyn ei enw yn uchel. Dyfernir wedyn fod yr ymgeisydd hwnnw wedi cael pleidlais ychwanegol.

Dylid gwneud paratoadau tebyg os byddwch yn penderfynu defnyddio unrhyw ddull arall o dynnu enwau ar hap.

Dylid ychwanegu datganiad at daflen y canlyniad, yn nodi:

‘Yn dilyn pleidleisiau cyfartal, tynnwyd enwau ar hap ac, o ganlyniad, rhoddwyd pleidlais ychwanegol i [rhowch enw’r ymgeisydd]’

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023