Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Gweithio gyda'ch swyddog pwynt cyswllt unigol

Mae gan bob heddlu yn y DU swyddog pwynt cyswllt unigol (SPOC) penodol ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau. Bydd SPOC eich heddlu lleol yn bartner allweddol i'ch helpu i sicrhau y nodir unrhyw broblemau posibl o ran uniondeb ac yr ymdrinnir â nhw'n gyflym. 

Dylech gysylltu â'ch SPOC penodol ar ddechrau'r broses o gynllunio'r etholiad. Ar ôl cysylltu am y tro cyntaf, dylech barhau â'r cyswllt hwn drwy gydol cyfnod yr etholiad. Os cewch unrhyw broblemau wrth sefydlu cyswllt â'r SPOC, cysylltwch â thîm lleol y Comisiwn.

Dylai eich trafodaethau gynnwys eich cynlluniau ar gyfer sicrhau uniondeb yr etholiad a'ch systemau ar gyfer nodi problemau posibl a pha gamau y dylid eu cymryd os bydd unrhyw amheuon.  

Mae rhestr wirio o bynciau y dylech eu hystyried mewn unrhyw gyfarfod cynllunio cyn etholiad rhyngoch chi a'ch SPOC ar gael i gefnogi eich trafodaethau. 

Dylech gytuno â'ch SPOC ar ddull o gyfeirio honiadau o dwyll a fydd o bosibl yn dod i law er mwyn gallu ymchwilio ymhellach iddynt lle y bo'n briodol. Er enghraifft, ai chi fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn cyfeirio honiadau at y SPOC, neu ai'r SPOC fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn rhoi gwybod i chi am honiadau? 

Dylech hefyd gytuno ar system ar gyfer trin tystiolaeth fel y gall yr heddlu wneud unrhyw waith dadansoddi fforensig, lle bo angen. Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer ymdrin â thystiolaeth.

Hefyd, dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y gall swyddogion yr heddlu (a all, yng Nghymru a Lloegr, gynnwys swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bellach) fynd i orsafoedd pleidleisio neu alw i mewn yn ystod y diwrnod pleidleisio, fel y bo'n briodol, a thrafod unrhyw faterion diogelwch sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar y broses gan gynnwys diogelwch cymunedol y pleidleiswyr.

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn penderfynu cynnal gwaith cyhoeddusrwydd ar y cyd â'r heddlu i gefnogi eich gwaith wrth sicrhau uniondeb yr etholiad. Er enghraifft, gallech gydweithio i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd yn yr ardal etholiadol er mwyn nodi beth y gellir ei wneud i helpu i ganfod achosion o dwyll etholiadol a'u hatal. 

Yng Nghymru a Lloegr, mae templed o femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y Swyddog Canlyniadau a'r heddlu ar gyd-gynllunio etholiadau a'r broses ar gyfer rhoi gwybod am achosion o gamymddwyn etholiadol ac ymchwilio iddynt ar gael ar wefan y Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig.

Mae Heddlu'r Alban wedi darparu canllawiau i Swyddogion yr Heddlu ar atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban.
atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023