Bydd enwebiad wedi'i gyflwyno'n ffurfiol ar y pwynt:
pan gaiff papur ei adael gyda chi ac ni chafodd y cynnig am wiriad anffurfiol ei dderbyn
pan fydd y gwiriad anffurfiol wedi'i gynnal, bod unrhyw faterion wedi'u datrys a bod y sawl sy'n cyflwyno'r papur enwebu wedi nodi ei fod yn fodlon ei fod yn barod i gael ei bennu
Dylid cynnig gwiriad anffurfiol i bob ymgeisydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gynnal gwiriadau anffurfiol.
Pan fydd ffurflen enwebu wedi'i chyflwyno'n ffurfiol, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau iddi (yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau). Cewch ragor o wybodaeth am eich pŵer i gywiro mân wallau yn yr adran Camgymeriadau ar bapurau enwebu.
Dylech arnodi pob ffurflen â'r dyddiad a'r amser cyflwyno ffurfiol, fel bod gennych gofnod o bryd y cyflwynwyd pob papur yn ffurfiol.
Os bydd ymgeisydd yn penderfynu'n ddiweddarach ei fod am wneud newid i'w bapur enwebu ar ôl iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol, er enghraifft i'r disgrifiad, gellir ond gwneud hyn drwy:
dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl
cyflwyno papurau enwebu newydd o fewn yr amserlen statudol
Yn yr un modd, nid oes unrhyw ddarpariaeth sy'n caniatáu i lofnodwr dynnu ei lofnod yn ôl o bapur enwebu unwaith y bydd wedi'i gyflwyno.