Nodi a threfnu lleoliadau addas a chynllunio gosodiadau
Dylech nodi lleoliadau priodol ar gyfer holl weithgareddau’r etholiad cyn gynted â phosibl.
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys nodi lleoliadau addas ar gyfer yr holl brosesau yr ydych yn gyfrifol amdanynt.
Dylech gysylltu â rheolwyr y lleoliadau hyn yn gynnar yn y broses er mwyn rhoi gwybod iddynt am y dyddiadau perthnasol, a’r trefniadau angenrheidiol a wnaed. Bydd hyn yn amlygu pa leoliadau sydd ddim ar gael a dylai ganiatáu digon o amser i weithredu ar y wybodaeth a nodi lleoliad arall.
Etholaethau trawsffiniol
Yn achos etholaeth sy'n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, gall rhai prosesau fod yn digwydd mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth. Dan yr amgylchiadau hyn, gall y dirprwyon penodedig o unrhyw awdurdod lleol arall nodi ac archebu'r lleoliadau a ddefnyddir ar gyfer y prosesau hyn a bydd y canllawiau yn yr adran hon yn berthnasol iddyn nhw hefyd.
Sicrhau bod lleoliadau’n hygyrch
Fel rhan o’ch adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol, dylech fod wedi cynnal gwerthusiad o addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd. Dylid defnyddio canlyniadau hyn i hysbysu eich cynlluniau ac i sicrhau y gellir goresgyn unrhyw rwystrau mynediad a nodwyd.
Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i osgoi rhoi pobl anabl dan anfantais sylweddol mewn cymhariaeth â phobl nad ydynt yn anabl.1
Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd, dylech weithio'n agos â phobl sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â safleoedd neu gyfleusterau i bobl anabl. Dylai swyddog cydraddoldeb eich awdurdod lleol allu rhoi cyngor a chymorth i chi.
Bydd yn ofynnol i chi hefyd ddarparu gwybodaeth ynghylch y trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn eu cynnwys yn y platfform gwybodaeth etholiadol. Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan y Bwrdd Rheoli Etholiadol.