Cais i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio
Os ydych wedi eich awdurdodi gan blaid wleidyddol i ddefnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio, gallwch hefyd wneud cais am i un o arwyddluniau swyddogol y blaid gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl eich enw.1
Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am arwyddlun a'i gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Rhaid i'r cais ddod i law y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.2
Gall plaid gofrestru hyd at dri arwyddlun. Efallai y byddwch am holi eich plaid (e.e y swyddog enwebu neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) ynghylch pa arwyddlun i'w ddefnyddio. Cofiwch wneud cais am arwyddlun cyfredol. Caiff ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran dwy blaid gofrestredig neu fwy ac sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddefnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru gan un o'r pleidiau gwleidyddol.3
Mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a'i gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn i'r enwebiadau gau, h.y. 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.4
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddarparu ffurflen y gallwch ei defnyddio i wneud y cais hwn neu, fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.
Dylai'r cais nodi enw'r blaid wleidyddol a'r disgrifiad o'r arwyddlun i'w ddefnyddio, fel y'u rhestrir ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn. Ni ellir newid arwyddluniau cofrestredig mewn unrhyw ffordd.