Mae pleidiau gwleidyddol yn awdurdodi ymgeiswyr i sefyll ar eu rhan drwy roi tystysgrif awdurdodi. Rhaid i'r dystysgrif hon nodi y gall yr ymgeisydd a enwir sefyll ar eu rhan a chaniatáu iddo ddefnyddio un o'r canlynol:1
union enw'r blaid fel y'i cofrestrwyd â'r Comisiwn
un o ddisgrifiadau cofrestredig y blaid
eich dewis naill ai o enw'r blaid gofrestredig neu'n un o'r disgrifiadau cofrestredig.
Dylai'r Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) fod yn hynod ofalus wrth gwblhau'r dystysgrif awdurdodi. Os yw'r dystysgrif yn awdurdodi enw plaid/disgrifiad penodol ac nad yw'n cyfateb i enw'r blaid/disgrifiad ar y papur enwebu, bydd yr enwebiad cyfan yn annilys.2
Rhaid i'r dystysgrif awdurdodi gael ei llofnodi gan Swyddog Enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol, neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i weithredu ar ei ran, a rhaid iddi ddod i law y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3
Os ydych yn sefyll ar ran dwy blaid neu fwy, bydd angen i chi gael tystysgrif awdurdodi gan Swyddog Enwebu'r naill blaid gofrestredig a'r llall (neu bobl a awdurdodwyd i weithredu ar ei ran).4
Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ar dudalen gofrestru'r pleidiau perthnasol.