Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ar ôl yr etholiad

Ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd roi datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.1

Rhaid i'r asiant gydymffurfio â'r terfynau amser ar gyfer:

  • derbyn a thalu anfonebau
  • anfon ffurflen yr ymgeisydd at y Swyddog Canlyniadau lleol

Rhaid i'r asiant a'r ymgeisydd hefyd gyflwyno datganiadau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.2

Rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen a datganiadau, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.3  Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.

Nodir y terfynau amser hyn, a rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant, yn Ar ôl yr etholiad
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024