Weithiau, bydd gwariant gan bleidiau yn hyrwyddo'r blaid a'r ymgeisydd. Yn yr achosion hyn, gall yr ymgeisydd roi gwybod am y gwariant hwn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd yn hytrach na'r blaid.
Er mwyn asesu a ddylai'r ymgeisydd roi gwybod am wariant rhaid i chi asesu a yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn y lle cyntaf.
Beth yw gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd?
Os bydd gweithgaredd wedi'i anelu at bleidleiswyr yn yr ardal etholiadol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll er mwyn hyrwyddo neu sicrhau ethol yr ymgeisydd hwnnw, yna bydd yn wariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.
Er enghraifft, ystyrir gweithgaredd sy'n hyrwyddo plaid yn weithgaredd sy'n hyrwyddo ymgeisydd pan fydd yr eitem:
yn enwi'r ymgeisydd penodol
yn enwi'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
Pan gaiff deunydd ei ddosbarthu ar draws nifer o ardaloedd etholiadol, bydd angen i chi ddosrannu costau'r gweithgaredd.
Lle mae deunydd:
yn cynnwys ymgeisydd
yn cael ei ddosbarthu ar draws ardal ehangach na'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
ystyrir bod cyfran o gost y deunydd hwn yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Y gyfran yr ystyrir ei bod yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd yw cost dosbarthu'r deunydd yn ardal etholiadol benodol yr ymgeisydd hwnnw.
Os ydych yn ansicr a yw gwariant yn wariant ar ymgeisydd neu'n wariant ar blaid, dylech gysylltu â ni.
Am ragor o wybodaeth am wariant ymgyrch plaid wleidyddol, gweler ein canllawiau ar wariant ymgyrch plaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddosrannu gwariant yn Rhannu gwariant.