Pryd mae'r cyfreithiau ynghylch gwariant ymgeisydd yn gymwys?
Defnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ i gyfeirio at yr adeg pan fydd y cyfreithiau ynghylch gwariant yn gymwys.
Y cyfnod a reoleiddir
Mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU, gellir cael dau gyfnod a reoleiddir ar wahân. Gelwir y rhain yn ‘ymgyrch hir’ ac ‘ymgyrch fer’.
Mae'r ymgyrch fer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio.1
Nid oes ymgyrch hir yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw dyddiad diddymu'r Senedd.2
Bydd y Senedd yn cael ei diddymu ar 30 Mai 2024.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad hwn os byddwch chi neu eraill eisoes wedi cyhoeddi eich bwriad i sefyll. 3
Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion, neu efallai eich bod eisoes wedi dechrau ymgyrchu.
Os nad yw eich bwriad i sefyll wedi cael ei gyhoeddi erbyn dyddiad diddymu'r Senedd, byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain: