Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw?

Dylech sicrhau bod system ar waith i gadw cofnodion o'ch holl wariant ymgeisydd fel y gallwch gydymffurfio â'ch cyfrifoldebau i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad. Mae gan asiantiaid etholiad gyfrifoldeb i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad.

Yr hyn y mae angen i chi ei gofnodi

Ar gyfer pob eitem gwariant, dylech gofnodi'r wybodaeth ganlynol i'w chynnwys ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad:

  • ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu'r gwerth
  • ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian

Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW.

Rhaid i chi gadw anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliadau o £20 neu drosodd. 1

Efallai y bydd yr asiant am gadw copïau o bob enghraifft o ddeunydd ymgyrchu (fel llythyrau neu daflenni) a ddefnyddir rhag ofn y bydd angen iddo gyfeirio'n ôl atynt.

Rhaid i chi hefyd gofnodi manylion gwariant:

  • pan fyddwch yn defnyddio eitemau a ddarparwyd i chi 
  • pan fyddwch yn awdurdodi rhywun arall i fynd i wariant

Ceir rhagor o fanylion yn yr adrannau ar wariant tybiannol ac ymgyrchu lleol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y manylion sy'n ofynnol ar y ffurflen gwariant yn Cwblhau eich ffurflen.


Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024