Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol a bod yr asiant wedi'i benodi, dim ond y bobl ganlynol y caniateir iddynt fynd i wariant etholiadol:
yr asiant
yr ymgeisydd
unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu'r asiant
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Os ydych yn awdurdodi rhywun i fynd i wariant ymgeisydd, rhaid gwneud hynny'n ysgrifenedig a nodi'n glir faint y gall ei wario ac ar beth.
Mae rheolaethau ar bwy all wneud taliadau yn berthnasol unwaith y cewch eich penodi'n swyddogol fel ymgeisydd. Gall yr ymgeisydd dalu am unrhyw eitemau cyn penodi asiant, ac eithrio treuliau personol, y mae cyfyngiad arnynt.i
Dim ond hyd at £600 y gall yr ymgeisydd ei dalu ar gostau personol ar gyfer teithio a llety, naill ai cyn neu ar ôl i asiant gael ei benodi.ii
Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol a bod yr asiant wedi'i benodi, rhaid i'r asiant wneud taliadau ar gyfer y rhan fwyaf o wariant ymgeiswyr. 1
Yn ogystal â threuliau personol, ceir dau eithriad:
gall yr asiant awdurdodi rhywun yn ysgrifenedig i dalu am fân dreuliau fel deunydd ysgrifennu neu gostau postio. Rhaid i'r awdurdodiad gynnwys swm y taliad. 2
gall yr asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw'r gwariant yn cyfrif tuag at ‘swm a ganiateir’ y person hwnnw ar ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd (gweler Ymgyrchu lleol). 3
Gall y person a awdurdodir i fynd i'r gwariant hefyd wneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw. 4
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un heblaw'r ymgeisydd, yr asiant neu'r is-asiant – er enghraifft gan berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig i fynd i wariant – yna os daw i law cyn iddo ddod yn ymgeisydd, bydd hyn yn rhodd os bydd dros £50 (ac na chaiff ei ad-dalu gan yr asiant). 5
Ceir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.
Gall ymgeiswyr hefyd weithredu fel eu hasiant etholiad eu hunain. 6
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r rheolau hyn ac yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau neu dalu costau.