Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd 1
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes angen i chi roi gwybod am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft, taflenni na chânt eu dosbarthu) ac ni fydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant.
Dylech gadw'r deunydd na chaiff ei ddefnyddio neu ddangos tystiolaeth o'i ddinistrio.
Os byddwch yn defnyddio'r eitemau dros ben mewn etholiad arall, rhaid i chi roi gwybod am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw.
Ailddefnyddio eitemau
Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol.
Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi roi gwybod am y taliad gwreiddiol eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.