Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth yw gwariant ymgeiswyr?

Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod 1  a reoleiddir.

Er mwyn iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:

  • fod yn weithgarwch ar restr o fathau o dreuliau etholiad
  • hyrwyddo'r ymgeisydd 2

Pan fyddwch wedi penderfynu bod rhywbeth yn wariant ymgeisydd, bydd angen i chi benderfynu sut y dylid rhoi gwybod amdano. Gall fod yn:

  • wariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo 
  • gwariant tybiannol, lle caiff rhywbeth ei ddarparu i chi a'ch bod yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch
  • ymgyrchu lleol, lle bydd rhywun heblaw'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd i wariant

Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r ffyrdd gwahanol yr eir i'r gwariant.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024