Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Faint y gallwch ei wario?

Mae'r terfyn gwariant yn seiliedig ar swm penodedig, yn ogystal â swm amrywiol fesul etholwr cofrestredig yn eich etholaeth ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad - dydd Mawrth 4 Mehefin 2024.

Bydd eich swyddog cofrestru etholiadol lleol yn gallu rhoi nifer yr etholwyr cofrestredig yn eich etholaeth i chi, a yw'n fwrdeistref, yn fwrdeistref neu'n etholaeth sirol.

Swm

penodedig


Swm amrywiol – Etholaeth fwrdeistref (Burgh yn yr Alban)

Swm amrywiol – Etholaeth sirol
£11,3908c fesul etholwr seneddol cofrestredig12c fesul etholwr seneddol cofrestredig

Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn etholaeth sirol sydd â 72,021 o etholwyr ynddi, eich terfyn gwariant fyddai:

£11,390 + (72,021 x £0.12) =

£11,390 + £8,642.52 =

£20,032.52

Nid oes ymgyrch hir yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024