Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Ymgyrchu lleol
Weithiau, bydd pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu na throsglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd ei ddefnyddio neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â'i gefnogi.
Gelwir sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholaeth yn ‘ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau’. Gelwir hyn hefyd yn wariant o dan adran 75A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Unwaith y bydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd swyddogol, gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £700 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd yn yr etholaeth. 1 Gelwir hyn yn swm a ganiateir. Bydd yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd yn swyddogol (gweler Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?)
Ni all ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant i fynd i'r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. 2
Example A
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.
Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.
Ni all y blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb gael awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant.
N/A
Os bydd ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid yn mynd i wariant sydd uwchlaw'r swm a ganiateir, rhaid iddo roi gwybod am y gwariant ychwanegol hwn i'r Swyddog Canlyniadau o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 3 Mae ffurflen a datganiad ar wahân y mae'n rhaid i'r ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid eu cwblhau er mwyn rhoi gwybod am dreuliau a awdurdodwyd.
Rhaid i'r treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu cynnwys yn y ffurflen gwariant i ymgeiswyr. 4 Mae arian yr eir iddo gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol a awdurdodwyd gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant. 5
Gall y treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu talu gan y person a awdurdodwyd i fynd iddynt. 6 Os bydd yn gwneud y taliadau, a bod y gwariant dros £50, yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd. Os byddwch yn cael rhodd ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid rhoi gwybod am hon ar wahân yn yr adran rhoddion o ffurflen gwariant yr ymgyrch fer. 7
Ceir manylion am wneud taliadau yn Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd a cheir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeiswyr.
Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cynllunio ymgyrch leol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ymgyrchu lleol gan bleidiau
Rhaid i bleidiau fod yn ymwybodol y bydd unrhyw wariant gan y blaid ar ymgyrchu lleol ar gyfer un o'i hymgeiswyr na chaiff ei awdurdodi gan yr asiant, yn cyfrif fel gwariant 8 y blaid. Mewn etholiadau a gwmpesir gan gyfnod a reoleiddir y blaid, fel etholiad Senedd y DU, rhaid i'r gwariant hwn gael ei gynnwys ar ffurflen gwariant y blaid. 9
I'r gwrthwyneb, dim ond ar y ffurflenni ymgyrchu lleol a ffurflen gwariant yr ymgeisydd fel uchod y bydd angen i unrhyw dreuliau a awdurdodwyd ymddangos.
Example
Enghraifft B
Mae'r asiant yn cytuno i awdurdodi'r blaid i wario mwy na'r swm a ganiateir, sef £700, ar wariant i hyrwyddo'r ymgyrchydd. Rhaid i'r asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig cyn i'r blaid wario mwy na'r swm a ganiateir. Yn y senario hwn, mae'r blaid hefyd yn cytuno i wneud y taliadau ar gyfer y treuliau a hyn a awdurdodwyd.
Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant hwn a awdurdodwyd ar ffurflen yr ymgeisydd, gan y bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. Am fod y blaid wedi talu am y treuliau hyn a awdurdodwyd, rhaid eu cofnodi hefyd fel rhodd i'r ymgeisydd os yw'r gwerth yn fwy na £50. 10
Rhaid i'r blaid lenwi ffurflen a datganiad ar wahân i roi gwybod am y treuliau hyn a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 11
Gan na roddwyd gwybod am y gwariant ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, nid oes angen rhoi gwybod amdano ar ffurflen gwariant y blaid.12
- 1. A.75(1ZZB) a (1ZA)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.75(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.75(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.81(2)(c), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.90ZA ac A.76(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.73(5)(ca), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, para. 1(3), para. 2(1)(c), para. 4(2) a phara. 10, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. A.72(2) – (7), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. A.80(3)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2A, para. 2(1)(c) a phara. 4(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. A.75(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. A.72(7)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 12