Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol (fel costau gwesty) yr ymgeisydd.1
Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ond rhaid i chi eu hadrodd yn eich ffurflen gwariant2
Gall treuliau personol gynnwys llogi car i'r ymgeisydd os nad yw'r ymgeisydd yn berchen ar gar eisoes, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn etholaeth wledig, efallai y bydd yn rhesymol llogi cerbyd gyriant pedair olwyn i gyrraedd ardaloedd anghysbell.
Unwaith y bydd yn ymgeisydd yn swyddogol, dim ond hyd at £600 o dreuliau personol y gall yr ymgeisydd ei dalu.3
Rhaid i'r asiant dalu unrhyw symiau uwchlaw'r swm hwn.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o'u treuliau personol i'w hasiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 4