Mae gwariant tybiannol yn dechrau gyda rhywbeth o werth yn cael ei ddarparu. Pan mae’r gwerth dros £500, mae hwn hefyd yn rhodd.1
Dylech gyfrifo gwerth yr hyn sydd wedi’i ddarparu fel gwariant tybiannol yn yr un ffordd ag y byddech yn cyfrifo gwerth rhodd nad yw’n un ariannol.
Mae’n arfer dda i gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych o werth gwariant tybiannol pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen.
Cyfrifo gwerth staff ar secondiad
Os yw cyflogwr yn anfon aelod o staff ar secondiad i’ch ymgyrch, mae'n rhaid i chi gofnodi eu cyflog gros ac unrhyw lwfansau fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau pensiwn nac yswiriant gwladol y cyflogwr.2
Bydd angen ichi gynnwys gwerth unrhyw dreuliau, fel bwyd neu deithio, yr ydych chi neu’ch cyflogwr yn eu had-dalu.
1. Atodlen 6, paragraff 2(e) a pharagraff 4(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025↩ Back to content at footnote 1