Sut i ddod yn brif ymgyrchydd neu'n fân ymgyrchydd
Rhaid i ymgyrchydd di-blaid sy’n rhan o ymgyrch ar y cyd ac sy’n cytuno i adrodd am holl wariant yr ymgyrch ar y cyd:
hysbysu’r Comisiwn eu bod yn rhan o ymgyrch ar y cyd, ac mai nhw fydd y prif ymgyrchydd, a
hysbysu’r Comisiwn am y mân ymgyrchwyr sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd.
Mae ymgyrchydd di-blaid yn cael hysbysu’r Comisiwn o’u statws fel prif ymgyrchydd, neu am y mân ymgyrchwyr sy’n cymryd rhan, unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod a reoleiddir.92
Sut i ddod yn brif ymgyrchydd neu'n fân ymgyrchydd
Nid oes terfyn ar nifer y prif ymgyrchwyr mewn ymgyrch ar y cyd. Hefyd, nid oes terfyn ar nifer y mân ymgyrchwyr all weithio gydag unrhyw brif ymgyrchydd mewn ymgyrch ar y cyd. Fodd bynnag, ni all mân ymgyrchydd hefyd fod yn brif ymgyrchydd yn yr un ymgyrch.
Mae'n rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru, ond ni all mân ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru.
Os bydd mân ymgyrchydd yn cyflwyno hysbysiad (er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gwario £10,000 o'i wariant a reoleiddir ei hun y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd) ni fydd yn fân ymgyrchydd mwyach. Bydd unrhyw ymgyrch ar y cyd y mae'n rhan ohoni, gyda phrif ymgyrchydd neu gydag unrhyw fân ymgyrchwyr eraill, yn dychwelyd i fod yn ymgyrch gyffredin ar y cyd.
Dylech ddefnyddio Ffurflen TP7: Hysbysiad o Brif Ymgyrchydd, i roi gwybod i ni fod prif ymgyrchydd wedi'i benodi ac i roi gwybod am unrhyw fân ymgyrchwyr.