Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Cymhwyso'r prawf diben
Rhaid i’r prawf diben gael ei gymhwyso ar y pryd y mae’r gwariant ar y gweithgaredd yn cael ei achosi neu, os ceir cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol, fel pe bai’n cael ei gymhwyso ar y pryd hwnnw. Os cafodd gwariant ei achosi cyn y cyfnod a reoleiddir ond bod y gweithgaredd yn digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid i’r prawf diben gael ei gymhwyso ar yr adeg y mae’r gweithgaredd yn digwydd.
Er nad yw’r rhain wedi’u nodi yn Neddf 2000, ceir nifer o ffactorau a all helpu i benderfynu a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd ymgyrchu wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth, sef:
- Galwad i weithredu
- Tôn
- Cyd-destun ac amseru
- Sut byddai unigolyn rhesymol yn gweld y gweithgaredd
Ni fydd un ffactor ar ei ben ei hun yn penderfynu a yw gweithgaredd ymgyrchu penodol yn bodloni’r prawf diben ai peidio. Yn hytrach, fe fydd yr holl ffactorau perthnasol o’u cymryd gyda’i gilydd yn penderfynu a yw gweithgaredd ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
Mae’r Comisiwn yn defnyddio’r ffactorau hyn wrth ystyried a yw gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben.
1. Galwad i weithredu
Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n cynnwys galwad i weithredu i bleidleiswyr, sef i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth, yn un sy’n hybu llwyddiant etholiadol i blaid benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly yn bodloni’r prawf diben. Gall yr alwad i weithredu fod yn echblyg, neu’n ymhlyg.
Mae ymgyrch sy’n hybu pleidiau neu ymgeiswyr penodol yn echblyg, neu sy’n hybu pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr penodol uwchlaw eraill yn ymhlyg, yn debygol o fodloni’r prawf diben.
Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch gyhoeddus heb alwad echblyg neu ymhlyg i weithredu i bleidleiswyr yn bodloni’r prawf diben.
2. Tôn
Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n gadarnhaol neu’n negyddol tuag at blaid neu bleidiau gwleidyddol, categori o ymgeiswyr neu bolisi sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid neu gategori o ymgeiswyr yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly yn bodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy’n gwneud i bleidleisiwr feddwl am blaid wleidyddol benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried fel pe bai wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly mae’n bodloni’r prawf diben.
3. Cyd-destun ac amseru
Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch ar fater neu bolisi sy’n fater amlwg pan fo’r gweithgaredd ymgyrchu yn digwydd, sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn un sy’n hybu llwyddiant etholiadol plaid benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly mae’n bodloni’r prawf diben.
Mae’n debycach y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n dechrau yn agos at ddyddiad etholiad a hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad sydd yn yr arfaeth.
Mae’n annhebygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch barhaus yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.
4. Sut byddai unigolyn rhesymol yn gweld y gweithgaredd
Dim ond os byddai person rhesymol yn ystyried y gweithgaredd fel un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth y bydd gweithgaredd ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.