Bydd angen i ystyr ‘y cyhoedd’ gael ei hystyried mewn perthynas â’r gweithgareddau ymgyrchu a ganlyn wrth benderfynu a yw gwariant ar y gweithgaredd yn cael ei reoleiddio ai peidio:
canfasio ac ymchwil marchnad ymysg y cyhoedd
ralïau a digwyddiadau cyhoeddus
cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd
Does dim diffiniad statudol o ‘y cyhoedd’ ac felly mae angen ei ystyried yn ei ystyr cyffredin.
N/A
Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y gweithgareddau uchod a sut y bydd angen i chi ystyried cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer pob un.