Gweithgareddau na chânt eu rheoleiddio

Yn ogystal â'r isod, mae PPERA yn darparu nad yw treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo yn weithgaredd a reoleiddir ac ni fydd yn cyfrif tuag at unrhyw derfyn gwariant.1  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu. 

Cyflwynwyd yr eithriad hwn ar ôl cymeradwyo’r Cod ac nid yw’n rhan o’r Cod Ymarfer.

Gweithgareddau na chânt eu rheoleiddio

Mae Deddf 2000 yn eithrio’n benodol y treuliau a ganlyn o’r gofynion ynglŷn ag adroddiadau:

  • treuliau a achosir mewn perthynas â chyhoeddi unrhyw fater yn ymwneud ag etholiad, heblaw hysbyseb:
    • mewn papur newydd neu gyfnodolyn 
    • fel darllediad a wneir gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu gan Sianel Pedwar Cymru neu
    • fel rhaglen a gynhwysir mewn unrhyw wasanaeth sydd wedi’i drwyddedu o dan Ran 1 neu 3 o Ddeddf Darlledu 1990 neu Ran 1 neu 2 Ddeddf Darlledu 1996 
  • treuliau a achosir mewn perthynas â chyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu o ganlyniad i hynny
  • treuliau personol rhesymol a achosir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer llety’r unigolyn neu ei anghenion personol eraill
  • treuliau rhesymol sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd unigolyn
  • treuliau a achosir mewn perthynas â darparu gwasanaethau’r unigolyn ei hun a ddarperir yn wirfoddol yn amser yr unigolyn ei hun ac yn rhad ac am ddim2

Cyfieithu deunydd i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg

Cyfieithu deunydd i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg

Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn mynd iddynt os bydd deunydd a gyhoeddir gennych yn cael ei gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg neu'r ffordd arall yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Rhaid i chi wneud asesiad gonest o'r costau sylfaenol os mai dim ond un iaith oedd dan sylw a dylech ddefnyddio hyn i bennu'r costau ychwanegol.

Enghraifft

Rydych yn llunio taflen ddwyieithog sy'n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r un testun ac felly mae ychydig dudalennau'n hirach na phetai'r daflen mewn un iaith yn unig. 

Ni fydd ffi'r cyfieithydd na'r gost o ddylunio, argraffu a phostio'r tudalennau ychwanegol yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Bydd unrhyw gostau cyfieithu ar gyfer ieithoedd eraill yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant.

Treuliau personol

Treuliau personol

Ni chaiff treuliau rhesymol yr eir iddynt gan unigolyn ar deithio, llety neu anghenion personol eraill mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir eu rheoleiddio.

Enghraifft

Os bydd unigolyn yn teithio i ddinas arall am y penwythnos er mwyn ymuno â'ch ymgyrch leol ac yn talu'r costau hyn ei hun, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. 

Fodd bynnag, os byddwch yn ad-dalu unigolyn am ei dreuliau personol, bydd y treuliau hyn yn wariant ymgyrchu a reoleiddir a rhaid adrodd arno.

Treuliau yr eir iddynt mewn perthynas ag anabledd unigolyn

Treuliau yr eir iddynt mewn perthynas ag anabledd unigolyn 

Hefyd, nid yw unrhyw gostau cymorth ychwanegol ar gyfer pobl anabl sy'n gweithio ar unrhyw weithgareddau a reoleiddir, neu i bobl anabl allu cael mynediad at unrhyw weithgareddau a reoleiddir a drefnir gennych neu gymryd rhan ynddynt, yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Enghraifft

Llunio taflenni ymgyrchu Braille i'w dosbarthu i aelodau dall o'r cyhoedd, neu logi cyfarpar wedi'i addasu fel bod modd i aelodau anabl o'r cyhoedd gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus.
 

Amser gwirfoddolwyr

Amser gwirfoddolwyr

Nid oes angen i chi gynnwys yr amser a dreulir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan wirfoddolwyr fel treuliau a reoleiddir. Fodd bynnag, caiff arian a gaiff ei wario ar unrhyw adnoddau y byddwch yn eu darparu i'ch gwirfoddolwyr gyflawni gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ei gynnwys. Er enghraifft, os byddwch yn llogi bws mini i gludo gwirfoddolwyr tra'u bod yn canfasio, bydd cost llogi'r bws yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Weithiau efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylai ei amser gael ei drin fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.

Mae unigolyn yn debygol o fod yn wirfoddolwr, er enghraifft, os nad yw ei gyflogwr yn talu am yr amser y mae'n ei dreulio ar eich ymgyrch (oni bai ei fod yn gwneud hynny yn ystod ei wyliau blynyddol arferol). Os bydd yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, dylech ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol.
 

Treuliau pleidiau ac ymgeiswyr

Treuliau pleidiau ac ymgeiswyr

O ran gwariant y mae'n rhaid i blaid wleidyddol gofrestredig neu ymgeisydd roi gwybod amdano fel treuliau etholiad, dim ond y sefydliad neu'r unigolyn hwnnw ddylai adrodd arno. Nid yw'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant ac ni ddylid ei gynnwys yn eich ffurflen gwariant.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2024