Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Am ba hyd y bydd eich hysbysiad yn aros ar y gofrestr?

Byddwch yn aros ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am 15 mis o'r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno'r hysbysiad i ni.1  Os disgwylir i'ch hysbysiad ddod i ben yn ystod cyfnod a reoleiddir, caiff ei estyn yn awtomatig hyd at ddiwedd y cyfnod a reoleiddir hwnnw.2

Os hoffech adnewyddu eich hysbysiad er mwyn aros ar y gofrestr, mae'n rhaid i chi anfon Ffurflen TP3 atom heb fod yn gynt nag 11 mis ar ôl eich hysbysiad gwreiddiol a heb fod yn hwyrach na thri mis wedi hynny.3  Gallwch hefyd gofrestru gan ddefnyddio CPE Ar-lein. 

Os bydd unrhyw rai o'ch manylion cofrestredig wedi newid, mae'n rhaid i chi ddiweddaru'r rhain pan fyddwch yn adnewyddu. 4

Er y byddwn yn ceisio anfon nodyn atgoffa atoch cyn i'ch hysbysiad ddod i ben, chi sy'n gyfrifol o hyd am gyflwyno hysbysiad adnewyddu o fewn y terfyn amser os ydych am barhau ar y gofrestr.

Daw eich hysbysiad i ben os nad ydych yn gwneud cais i adnewyddu eich cofrestriad yn ystod y cyfnod hwn. 5  Os bydd eich hysbysiad yn dod i ben a'ch bod am gael eich ailychwanegu at y gofrestr, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad newydd.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023