Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Pwy all gyflwyno hysbysiad?
Ymgyrchwyr di-blaid cymwys
Dim ond unigolion neu sefydliadau a ddisgrifir yn adran 88(2) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.
Gwaherddir sefydliadau rhag cofrestru fel ymgyrchydd di-blaid ac fel plaid wleidyddol. 1
Who can submit a notification?
Dylech wirio'n ofalus a ydych yn gymwys i gyflwyno hysbysiad.
Dim ond yr unigolion neu'r sefydliadau canlynol all gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol:
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, neu sy'n preswylio yn y DU
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas gyfeillgar, cymdeithas ddiwydiannol neu gymdeithas ddarbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
- corff sydd wedi ei gorffori drwy Siarter Frenhinol
- sefydliad corfforedig elusennol yn y DU
- partneriaeth Albanaidd sy'n cynnal busnes yn y DU 2
Dylech sicrhau eich bod yn cyflwyno hysbysiad fel y math o endid sy'n cynnal y gweithgarwch ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar gofrestr etholiadol yn y DU a bod gennych gwmni cofrestredig, dylech gyflwyno hysbysiad fel yr endid sy'n gwneud y gweithgarwch ymgyrchu.
Os ydych yn dod o dan un o'r categorïau hyn, ac nad ydych yn cyflwyno hysbysiad, ni allwch wario mwy na £10,000 ar ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid mewn etholiad cyffredinol i Senedd y DU.
Pwy na all gyflwyno hysbysiad?
Pwy na all gyflwyno hysbysiad?
Ni allwch gyflwyno hysbysiad fel ymgyrchydd unigol nad yw'n blaid os mai chi yw'r person cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid eisoes. 3
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, nid yw pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn gymwys i gyflwyno hysbysiad fel ymgyrchydd nad yw'n blaid. Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, ni allwch gofrestru fel plaid wleidyddol nes bod eich cofrestriad fel ymgyrchydd nad yw'n blaid wedi dod i ben. 4
Mae cymdeithasau anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU (yn wahanol i gymdeithasau anghorfforedig y mae eu prif swyddfa yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'u busnes neu eu gweithgareddau yn y DU) yn gallu gwario dros £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ond nid ydynt yn gymwys i gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Mae hyn yn golygu na all cymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 5
Os nad ydych yn dod o dan un o'r categorïau uchod, ac nid ydych yn gymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU, dim ond hyd at £700 y gallwch ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 6
- 1. Adran 88 ac adran 28(7A) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 88(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 88(2)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 88 ac adran 28(7A) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 88(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 89A(1) a (2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6