Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rai sefydliadau ddarparu enwau'r bobl sy'n rhan o'u cyrff llywodraethu neu bwyllgorau pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Yn y gyfraith, ‘cyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad yw'r enw ar y rhain.
Nodir y cyfranogwyr perthnasol a'r manylion perthnasol ar gyfer pob math o sefydliad yn y tablau canlynol:
Aelodau pwyllgor rheoli neu gorff cyfarwyddo arall y gymdeithas
Cymdeithasau anghorfforedig
Lle mae gan y gymdeithas anghorfforedig fwy na 15 aelod ynghyd â swyddogion neu gorff llywodraethu, swyddogion neu aelodau'r corff llywodraethu. Fel arall, aelodau'r corff.