Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Nwyddau a gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu cael neu a ddarperir ganddo
Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cael nwyddau neu wasanaethau
Yn ogystal â rhoddion ariannol, efallai y byddwch hefyd yn cael rhoddion ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad.
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i'ch sefydliad, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheoliadau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.
Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau, caiff y rhain eu hystyried fel rhodd os:
- bydd gwerth marchnadol y nwyddau neu'r gwasanaethau, os cawsant eu rhoi am ddim, yn fwy na £500, neu1
- bydd swm y gostyngiad anfasnachol yn fwy na £5002
Y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.3
Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £500 gan roddwr a ganiateir.4
Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cynnal digwyddiad neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau
Os bydd eich sefydliad yn cynnal digwyddiad, neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad hefyd. Ystyrir bod unrhyw arian y bydd eich sefydliad yn ei gael sydd dros y gwerth marchnadol ar gyfer costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) yn rhodd.5
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o werth marchnadol y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu oherwydd os bydd rhywun yn talu mwy na'r gwerth marchnadol, ystyrir bod y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu i chi a'r gwerth marchnadol yn rhodd os bydd y swm hwn yn fwy na £500.6
Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael unrhyw daliad ychwanegol ar delerau anfasnachol, a bydd y cyfreithiau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. Nid yw'r gwerth marchnadol, neu incwm masnachol, yn rhodd.7
Bydd gwerth unrhyw rodd yn gyfystyr â'r swm o arian dros werth marchnadol costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) a gaiff eich sefydliad gan bob rhoddwr.
Dylech gyfrifo faint mae'n ei gostio i'r sefydliad am bob unigolyn sy'n mynychu'r digwyddiad, neu am bob unigolyn sy'n cael nwyddau neu wasanaethau. Yna, didynnwch y swm hwn o'r hyn y gwnaeth pob unigolyn ei dalu i chi er mwyn canfod gwerth y rhodd. Bydd hyn yn rhodd os yw'r swm hwn yn fwy na £500.8
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth marchnadol neu fasnachol y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych wedi'u cael neu eu darparu.
Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau/gwasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech gadw cofnod o'r modd y lluniwyd eich prisiad.
Gwerthu gwasanaethau unigryw
Wrth geisio pennu'r gwerth marchnadol, efallai y byddwch hefyd am ystyried y lefel briodol ar y farchnad ar gyfer yr hyn rydych yn ei werthu.
Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhesymol defnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn achosion lle mae'r gwasanaethau yn unigryw a/neu lle mae gennych rywfaint o fonopoli ar y farchnad.
- 1. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 4(2) a phara. 5(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 2(1)(e), para. 3(b), para. 4(2) a para. 5(4) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 5 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 6(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 4(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 2(1)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 4(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8