Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys?

Os byddwch yn cael rhodd nad yw gan ffynhonnell a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich sefydliad yn cadw'r rhodd nas caniateir ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi'i derbyn.

Os bydd eich sefydliad yn derbyn rhodd nas caniateir, gallech fod yn destun camau gorfodi. Mae'n bosibl hefyd y bydd y person cyfrifol wedi cyflawni trosedd. Ymdrinnir ag unrhyw achos posibl o dorri'r rheolau yn unol â'n Polisi Gorfodi.

Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.

Rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r ffynhonnell, os yw'n hysbys
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol
  • sut y rhoddwyd y rhodd
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)

Rhaid i chi gynnwys pob rhodd nas caniateir yn eich ffurflen gwariant ar yr ymgyrch.

Sut rydych yn dychwelyd rhodd nas caniateir?

Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd.1

Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol o £600 yn ddienw), rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:

  • y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi, neu
  • y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd2

Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, rhaid i chi anfon y swm cyfatebol i'r Comisiwn Etholiadol.3  Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Fawrhydi.4  Cysylltwch â ni i drefnu i'r symiau hyn gael eu trosglwyddo fel y gallwn roi ein manylion banc i chi.

Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen adrodd arno.5

Beth y mae'n rhaid i chi ei gofnodi?

Os cewch rodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi ei dychwelyd a chofnodi'r manylion canlynol:6

  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth (ar gyfer rhodd anariannol)
  • os na allech gadarnhau pwy oedd y rhoddwr, manylion am sut y rhoddwyd y rhodd
  • os ydych wedi cadarnhau pwy oedd y rhoddwr, ond nad oedd y rhoddwr yn un a ganiateir ar yr adeg berthnasol, enw a chyfeiriad y rhoddwr
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)

Bydd angen y manylion hyn arnoch pan rowch wybod i ni am y rhodd a ddychwelwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2024