Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Pennu gwerth rhodd drwy nawdd

Beth yw nawdd?

Pan roddir cefnogaeth i ymgyrchydd nad yw'n blaid i'w helpu i dalu rhai costau, caiff hyn ei ddiffinio fel nawdd. Yn unol â'r gyfraith, mae rheolau gwahanol yn gymwys i'r rhoddion hyn.

Nawdd yw cefnogaeth a roddir i ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ei helpu i dalu am gostau:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu cyhoeddiad (argraffedig neu ddigidol), neu
  •  unrhyw astudiaeth neu ymchwil1

A oes unrhyw eithriadau i'r rheolau ynglŷn â nawdd?

Nid yw'r costau canlynol yn cyfrif fel nawdd: 2

  • taliadau mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiad arall
  • pris prynu unrhyw gyhoeddiad
  • taliadau ar y gyfradd fasnachol am hysbysebion mewn cyhoeddiadau

Dim ond hyd at werth masnachol hysbysebion sy'n ymddangos mewn cyhoeddiadau y mae'r eithriad yn gymwys. Enghraifft o'r eithriad hwn yw cyhoeddiad sy'n nodi nodau ymgyrchydd nad yw'n blaid, megis maniffesto cyn etholiad.

Dylai taliadau am unrhyw fathau eraill o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir, gael eu trin fel nawdd os byddant yn helpu i dalu am gost y digwyddiad.

Nid yw taliadau am hysbysebion nad ydynt yn helpu i dalu am gostau digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, os byddwch yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein ond nad ydych yn mynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu a'r gwerth masnachol yn rhodd. Ni fydd unrhyw symiau a delir am hysbysebion mewn cyhoeddiadau sy'n uwch na'r gyfradd fasnachol wedi'u heithrio ac ystyrir eu bod yn rhodd os byddant yn werth mwy na £500.3

Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, mae'n bosibl y bydd yn rhodd o hyd os yw'n bodloni'r diffiniad o rodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023