Nid yw'r gyfraith yn cwmpasu arian rydych yn ei gael tuag at wariant na chaiff ei reoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.1
Er enghraifft:
rhoddion a roddir tuag at weithgareddau a gynhelir cyn y cyfnod a reoleiddir, megis taflenni rydych yn eu cynhyrchu a'u defnyddio cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau
rhoddion a roddir tuag at weithgareddau ymgyrchu nas rheoleiddir
Ni chaiff arian a roddir i chi neu'ch sefydliad at ddibenion cyffredinol, yn hytrach nag yn benodol i ariannu gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, ei gwmpasu gan gyfraith etholiadol.
Er enghraifft, os byddwch yn cynnal digwyddiad i godi arian i gefnogi gweithgareddau cyffredinol eich sefydliad, neu fod gennych roddwyr rheolaidd sy'n rhoi arian ar y sail hon, ni fydd y cyfraniadau hyn yn dod o dan y cyfreithiau ar roddion i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Rhoddion o £500 neu lai
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac nid oes angen i chi eu cofnodi na rhoi gwybod amdanynt.2
Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle yr ymddengys fod rhoddwr yn ceisio osgoi gofynion o ran rhoddion a ganiateir o dan y Ddeddf. Mae'n drosedd ceisio osgoi dilyn y cyfyngiadau ar dderbyn rhoddion.3
Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi'r gofynion o ran rhoddion a ganiateir.
Os credwch y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.