Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Cyllido torfol

Beth yw cyllido torfol?

Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.

Tryloywder 

Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Dylai'r dudalen we hefyd gynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau caniatâd eu cynnal er mwyn cydymffurfio â'r rheolau, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn. 

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Mae canllawiau ar wahân ar argraffnodau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn yr Alban.

Yr hyn a ganiateir 

Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £500.

Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a phenderfynu a allwch dderbyn y rhodd. Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.

Ni chaiff arian a roddir i ymgyrchydd nad yw'n blaid drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £500 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano.

Fodd bynnag, pan fyddwch yn derbyn rhoddion, rhaid i chi fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gwneud sawl rhodd o £500 neu lai mewn ymgais i osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion a ganiateir. Mae'n drosedd ceisio osgoi dilyn y rheolaethau ar roddion. Os ydych yn bryderus y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell. 

Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw dros £500.

Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.

Cryptoarian

Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.

Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023