Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Llofnodion llofnodwyr

Mae angen i bob ffurflen enwebu gael ei llofnodi gan y 100 o etholwyr sydd ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol ar gyfer awdurdod lleol yn ardal yr heddlu. 

Rhaid iddynt fod o oedran pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio a bod ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad. 1

Bydd y ddau etholwr cyntaf yn llofnodi ac yn ysgrifennu eu henwau fel y cynigydd a'r eilydd, a bydd y 98 arall yn llofnodi fel cefnogwyr i'r enwebiad.

Os bydd ffurflen enwebu yn cynnwys mwy na 100 o lofnodion, dim ond y 100 cyntaf a dderbynnir. 2  Os bydd unrhyw un o'r 100 llofnod cyntaf yn annilys, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu bennu bod y ffurflen enwebu'n annilys, waeth p'un a yw'r ffurflen yn cynnwys mwy na 100 ai peidio. 3

Nid oes dim yn eich atal rhag llofnodi eich enwebiad eich hun ar yr amod eich bod wedi'ch cofrestru yn ardal yr heddlu.

Gall fod rhai etholwyr ar y gofrestr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw am eu bod yn poeni am eu diogelwch.

Ni chaiff etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw lofnodi ffurflenni enwebu. 
Dangosir etholwyr di-enw ar y gofrestr gyda'u rhif pleidleisio a'r llythyren 'N' yn unig (yn hytrach na'u henw a chyfeiriad).

Ni ddylai ffurflenni enwebu gael eu newid ar ôl eu llofnodi. Dylai eich holl fanylion gael eu cwblhau cyn i chi wahodd unrhyw un i lofnodi eich enwebiad. Unwaith y bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedi derbyn ffurflen enwebu, ni all llofnodion gael eu tynnu'n ôl.

Y rhif etholwr

Rhaid nodi rhif etholwr pob llofnodwr fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, ar y ffurflen enwebu, yn ogystal ag enw'r awdurdod lleol lle y mae wedi'i gofrestru.  4

Fel rheol, mae'r rhif etholwr yn cynnwys rhifau neu lythrennau penodol y dosbarth etholiadol ar flaen y gofrestr. 

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob awdurdod lleol yn gallu eich cynghori ar drefn ei gofrestr.

Cewch gopi am ddim o'r gofrestr etholwyr ar gyfer pob awdurdod lleol, neu ran o awdurdod lleol, sydd yn ardal yr heddlu lle rydych yn sefyll. 5  

Dylech ddefnyddio'r cofrestrau er mwyn sicrhau bod eich ffurflen enwebu wedi'i llofnodi'n gywir. 

Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, a'r ddarpariaeth etholiadol y cawsoch y gofrestr drwyddi, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholwyr yn ddiogel ac ar ôl i chi orffen ei defnyddio, dylech sicrhau ei bod yn cael ei dinistrio'n ddiogel.

Ystyriaethau diogelu data

Wrth gasglu gwybodaeth am lofnodwyr, dylech nodi at ba ddibenion y caiff y wybodaeth ei defnyddio, a sut y caiff data personol eu prosesu a'u cadw'n ddiogel.  Sail gyfreithiol casglu'r wybodaeth yn y ffurflen hon yw bod ei hangen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer awdurdod swyddogol fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig.  

Dylech hefyd esbonio y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu a phrosesu data, dylech gyfeirio at hysbysiad preifatrwydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar ei wefan.

Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol effeithio arnoch chi fel ymgeisydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Mawrth 2024