Mae pleidiau gwleidyddol yn awdurdodi ymgeiswyr i sefyll ar eu rhan drwy roi tystysgrif awdurdodi. Rhaid i'r dystysgrif hon nodi y gall yr ymgeisydd a enwir sefyll ar eu rhan a chaniatáu iddo ddefnyddio un o'r canlynol: 1
union enw'r blaid fel y'i cofrestrwyd â'r Comisiwn
un o ddisgrifiadau cofrestredig y blaid
eich dewis o naill ai enw'r blaid gofrestredig neu un o'r disgrifiadau cofrestredig
Os ydych yn ymgeisydd yng Nghymru, cewch ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw'r blaid neu'r disgrifiad, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru â ni.
Ceir enwau pleidiau cofrestredig a disgrifiadau cofrestredig ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn http://search.electoralcommission.org.uk
Dylai'r Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) fod yn hynod ofalus wrth gwblhau'r dystysgrif awdurdodi. Os yw'r dystysgrif yn awdurdodi enw plaid/disgrifiad penodol ac nad yw'n cyfateb i enw'r blaid/disgrifiad ar y papur enwebu, bydd yr enwebiad cyfan yn annilys. 2
Rhaid i'r dystysgrif awdurdodi gael ei llofnodi gan Swyddog Enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol, neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i weithredu ar ei ran,a rhaid iddi ddod i law Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 34
Os ydych yn sefyll ar ran dwy blaid ar y cyd, bydd angen i chi gael tystysgrif awdurdodi gan Swyddog Enwebu'r naill blaid gofrestredig a'r llall (neu bobl a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan). 5
Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ar dudalen gofrestru'r pleidiau perthnasol.
1. Paragraffau 6(1) a (2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 1