Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin

Rhaid i chi gwblhau eich enw llawn ar y ffurflen enwebu

Os ydych:

  • yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy'n wahanol i unrhyw gyfenw neu enw cyntaf arall sydd gennych 
  • yn defnyddio un enw cyntaf neu gyfenw neu fwy mewn ffordd wahanol i'r hyn a nodir ar eich ffurflen enwebu

gallwch nodi eich enw neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu yn ogystal â'r enwau llawn a ddarparwyd gennych 1

Er enghraifft, efallai fod pobl yn eich adnabod fel 'Andy', yn hytrach na'ch enw cyntaf llawn sef 'Andrew'. Yn yr achos hwnnw, gallwch ysgrifennu 'Andy' yn y blwch ‘enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin’ ar y papur enwebu, os byddai'n well gennych fod yr enw hwnnw’n ymddangos ar y papur pleidleisio.

Gallwch wneud cais i ddefnyddio enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin, cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, neu'r ddau.

Yna byddai unrhyw enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn ymddangos ar:

  • ddatganiad ynghylch y personau a enwebwyd 
  • yr hysbysiad etholiad
  • y papurau pleidleisio

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy'n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy'n anweddus neu'n sarhaus. Os na chaniateir yr enw(au), bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ysgrifennu atoch gan nodi'r rheswm dros hynny. Yn yr achosion hynny, defnyddir eich enw gwirioneddol. 2

Os caiff y blwch ar gyfer enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur enwebu ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw gwirioneddol, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papur enwebu. Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw cyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu'n gyfenw cyffredin ar eich cyfer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2024