Dylech lunio cynllun hyfforddi ar gam cynnar o'ch gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiad, gan nodi anghenion hyfforddi staff parhaol a staff dros dro er mwyn ymgymryd â'u rolau.
Mae angen i bob aelod o'r tîm, boed yn aelod parhaol neu dros dro, ddeall ei rôl benodol ac unrhyw rwymedigaethau statudol sy'n gysylltiedig â'r gwaith a wna. Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant ar y gofynion deddfwriaethol a'r cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'w rôl, yn ogystal â hyfforddiant ar sicrhau mynediad cyfartal a gofal cwsmeriaid da.
Dylai eich cynllun hefyd gynnwys sut y byddwch yn gwerthuso'r sesiynau a'r deunyddiau hyfforddi a ddefnyddiwyd er mwyn llywio gwaith cynllunio yn y dyfodol. Os oes gennych bersonél hyfforddi neu ddysgu a datblygu yn eich cyngor, efallai y byddant yn gallu eich helpu gyda'r broses hon.
Hyfforddiant diogelu data
Er y bydd yr hyfforddiant a gynigir gennych i bob aelod o'r tîm wedi'i deilwra at ei rôl benodol, dylai pawb sy'n ymdrin â data personol fod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ymdrin â data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data a dylai fod wedi cael hyfforddiant yn y maes.
Dylech drafod eich cynlluniau ar gyfer hyfforddiant diogelu data gyda Swyddog Diogelu Data eich cyngor. Bydd hyfforddiant diogelu data yn eich helpu i ymgorffori'r egwyddorion diogelu data yn eich gwaith a dangos cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data.