Bydd angen i chi benodi staff i'ch helpu i gynnal y prosesau etholiadol amrywiol. Dylech nodi gofynion staffio a rhoi prosesau ar waith i recriwtio'r staff angenrheidiol. Dylech allu defnyddio cronfa ddata o'r staff a ddefnyddiwyd mewn etholiadau blaenorol i helpu yn hyn o beth, a dylech hefyd gael cyngor gan dîm Adnoddau Dynol eich cyngor ar unrhyw anghenion recriwtio allanol a allai fod gennych.
Gall staff hefyd gael eu recriwtio yn aml o blith cyflogeion cynghorau. Gall awdurdodau lleol ganiatáu i'w staff weithio ar yr etholiad, ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny.
Wrth nodi a recriwtio staff, dylech ystyried y sgiliau sy'n briodol ar gyfer pob rôl a'u defnyddio i greu disgrifiad swydd addas. Er enghraifft, gallai'r rheini sydd â phrofiad o weithio ym maes cyllid gael eu recriwtio i gofnodi'r papurau pleidleisio nas defnyddiwyd yn ystod y cam dilysu a chyfrif, neu weithio mewn sesiynau agor pleidleisiau post i gofnodi'r cyfansymiau dyddiol.
Gan nad oes unrhyw gyfyngiad o ran oedran ar gyfer staff sy'n gweithio ar brosesau etholiadol penodol, gallech gysylltu â sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch lleol i ddod o hyd i bobl ifanc a allai gael eu recriwtio i weithio mewn gorsafoedd pleidleisio neu yn ystod y cam dilysu a chyfrif, a allai hefyd helpu i annog pobl ifanc i ymgysylltu fwy â'r broses ddemocrataidd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu ffioedd i staff yn ein hadran ar Cyfrifyddu ar gyfer yr etholiad.