Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw faterion byw a allai effeithio ar y broses o gludo'r blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu, er enghraifft tywydd gwael neu achosion o gau ffyrdd, a bydd angen i chi benderfynu pa fesurau wrth gefn sy'n briodol. Bydd angen i chi fonitro'r sefyllfa ar y diwrnod pleidleisio a gallu gwneud penderfyniadau gweithredol er mwyn delio â sefyllfaoedd wrth iddynt godi, megis cerbyd yn torri i lawr. Hefyd, bydd angen i chi benderfynu beth fydd y protocolau cyfathrebu i yrwyr roi gwybod i chi am unrhyw oedi.
Ciwiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio
Gallai'r ddarpariaeth i ganiatáu i'r rhai sy'n aros mewn ciwiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio fwrw pleidlais achosi oedi os bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar ôl 10pm. Mae angen i chi benderfynu pa systemau y byddwch yn eu rhoi ar waith i leihau unrhyw oedi i'r eithaf os bydd y sefyllfa hon yn codi. Dylai fod gennych hefyd brotocolau cyfathrebu fel y gallwch gael gwybod yn syth os bydd unrhyw giwiau'n datblygu. Bydd hyn yn eich galluogi i asesu'r oedi tebygol yn gynnar ac addasu'r broses ddilysu yn ôl yr angen, er enghraifft, drwy ad-drefnu adnoddau.