Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pan fydd y Swyddog Llywyddu yn trosglwyddo'r blychau pleidleisio

P'un a fydd y Swyddogion Llywyddu yn cludo'r blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu a chyfrif neu'n mynd â nhw i fan casglu, dylech egluro i'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio na ddylid caniatáu i unrhyw Swyddogion Llywyddu adael nes bod eu blwch/blychau pleidleisio a'r holl ddogfennau a phecynnau wedi cael eu derbyn a'u gwirio gan yr aelod dynodedig o staff a, lle bynnag y bo modd, eu bod wedi bwrw golwg yn fras dros y cyfrif papurau pleidleisio. Dylech gyfarwyddo'r staff sy'n derbyn blychau pleidleisio i sicrhau eu bod yn cael y cyfrif papurau pleidleisio ar gyfer pob blwch pleidleisio.

Os bydd Swyddogion Llywyddu yn dod â llawer o flychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu neu'r man casglu, dylech ddarparu staff i helpu'r Swyddog Llywyddu i gludo'r holl flychau pleidleisio a'r deunyddiau ategol i'r lleoliad dilysu neu'r man casglu mewn un daith. 

Dylech hefyd gofnodi pryd y bydd pob blwch pleidleisio yn cyrraedd, fel y gallwch gyfeirio at y wybodaeth hon yn y dyfodol.

Dylai eich proses sicrhau y gall unrhyw beth sydd ar goll gael ei nodi'n gyflym ac y gellir cymryd camau i ddod o hyd i'r eitemau coll. 

Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod prosesau ar waith gennych i sicrhau diogelwch unrhyw ddata personol sydd ar y papurau pleidleisio a gwaith papur arall o'r orsaf bleidleisio.

Dylech goladu manylion yr holl orsafoedd pleidleisio ymlaen llaw, ynghyd ag enwau a rhifau ffôn symudol pob Swyddog Llywyddu fel y gallwch gysylltu â Swyddogion Llywyddu yn hawdd os bydd unrhyw broblemau. 

Dylai Swyddogion Llywyddu gofnodi unrhyw faterion i chi eu hystyried, os bydd angen, yn y lleoliad dilysu a chyfrif.

Dylai eich tîm o staff sy'n derbyn deunyddiau gan orsafoedd pleidleisio ddefnyddio rhestr wirio er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi cyfrif am yr holl flychau pleidleisio a chyfrifon papurau pleidleisio yn gywir, yn ogystal ag unrhyw becynnau sy'n cynnwys pleidleisiau post a roddwyd i staff gorsafoedd pleidleisio. 

Rydym wedi paratoi rhestr wirio i chi ei hargraffu a'i defnyddio yn ystod y broses ddilysu:

Cyfuno

Lle bo etholiadau wedi cael eu cyfuno a blychau pleidleisio ar wahân wedi cael eu defnyddio ar gyfer pob etholiad, bydd angen i chi baratoi rhestrau gwirio pellach er mwyn olrhain y blychau a'u gwaith papur ategol ar gyfer yr etholiad arall/etholiadau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Mawrth 2024