Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Derbyn a rheoli papurau pleidleisio a deunyddiau etholiad yn y lleoliad dilysu

Dylai fod gennych dîm o staff hyfforddedig sy'n gyfrifol am gofrestru derbyn pob blwch pleidleisio, y pleidleisiau post a'r deunyddiau eraill sydd wedi'u dosbarthu o orsafoedd pleidleisio a phleidleisiau post a ddosbarthwyd i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor.

Dylech drefnu'r pecynnau a'r parseli o orsafoedd pleidleisio fel y gallwch ddod o hyd i unrhyw becyn yn hawdd.  

Mae angen gwahanu’r sachau sy’n cynnwys y dogfennau y mae angen eu storio, gan gynnwys rhestrau rhifau cyfatebol wedi’u selio, pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a phecynnau o ffurflenni dychwelyd pleidleisiau post sy’n cyd-fynd â nhw, oddi wrth y rhai sy’n cynnwys eitemau a gaiff eu hailddefnyddio, megis deunyddiau ysgrifennu cyffredinol.

Yna gallwch ryddhau'r deunyddiau amrywiol a dderbyniwyd yn ôl gan orsafoedd pleidleisio i'r staff derbyn yn y timau perthnasol, er mwyn gallu dechrau'r broses o ddilysu'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio ac agor pleidleisiau post. Gellir cynnal y prosesau hyn ar yr un pryd â'r broses i ddilysu pleidleisiau wedi'u defnyddio. 

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r cam gweithredu y dylech ei gymryd ar gyfer pob math o becyn wedi'i selio a dderbynnir:

Pecynnau wedi'u selio a dderbynnirCam gweithredu i'w gymryd
Cyfrifon papurau pleidleisio
Papurau pleidleisio a ddifethwyd a phapurau pleidleisio heb eu defnyddio
  • Dylech agor, cyfrif ac ail-selio pob pecyn1
  • Rhowch y nifer a gyfrifwyd i'r staff dilysu
Papurau pleidleisio a gyflwynwyd a rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd
  • Peidiwch ag agor pecynnau papurau pleidleisio a gyflwynwyd sydd wedi'u selio2
  • Agorwch ac ail-seliwch y pecyn sy'n cynnwys y rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd a'i gwirio yn erbyn y cyfrifon papurau pleidleisio1
  • Rhestrau rhifau cyfatebol
  • Tystysgrifau cyflogaeth
  • Copïau wedi'u marcio o'r gofrestr
  • Rhestrau dirprwyon
  • Peidiwch ag agor y pecynnau hyn2
  • Cadwch nhw dan sêl a'u rhoi mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
Pleidleisiau post a roddir i staff yr orsaf bleidleisio
  • Bydd angen i chi ymgymryd â'r sesiwn agor amlenni pleidleisiau post olaf ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio  
  • Gallwch wneud hyn naill ai yn y lleoliad dilysu neu mewn safle arall. Y naill ffordd neu'r llall, rhaid bod gennych ddull o gofnodi nifer y pleidleisiau post a dderbyniwyd  

Yn unol â'ch polisi cadw dogfennau, dylech sicrhau'r canlynol:

  • bod y deunyddiau y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl wedi'u gosod mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
  • bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Chwefror 2024