Sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio a'r deunyddiau perthnasol o ddiwedd y cyfnod pleidleisio hyd at ddatgan y canlyniadau, yn enwedig lle bydd angen cludo'r papurau pleidleisio o'r lleoliad dilysu i'r lleoliad cyfrif neu lle bydd toriad yn ystod y gweithrediadau yn golygu bod angen storio'r papurau pleidleisio rhwng diwedd y broses ddilysu a dechrau'r broses gyfrif.1
Os bydd angen i chi storio papurau pleidleisio, rhaid i chi eu storio mewn blychau pleidleisio wedi'u selio mewn man diogel, gan ganiatáu i asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau pleidleisio.2
Dylech bob amser agor y blychau pleidleisio sydd wedi'u selio o flaen unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n bresennol, er mwyn iddynt allu bod yn fodlon nad oes neb wedi ymyrryd â'r papurau pleidleisio na'r blychau pleidleisio.
Gallwch gysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol (SPOC) yn yr heddlu wrth benderfynu ar y dull mwyaf priodol o sicrhau prosesau storio diogel, a dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i ymgeiswyr ac asiantiaid am eich trefniadau, fel y gallant ymddiried yn uniondeb y broses gyfrif.
Bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol hefyd, yn unol â'ch polisi cadw dogfennau.
Asesiadau risg
Bydd angen i chi sicrhau bod prosesau sy'n briodol i'r risg ar waith er mwyn sicrhau lefel o ddiogelwch ar gyfer data personol sydd wedi'u cynnwys ar y papurau pleidleisio ac ar waith papur arall o'r orsaf bleidleisio.
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio wrth gefn, byddwch wedi ystyried risgiau diogelwch a'u cynnwys ar eich cofrestr risg. Gall risgiau diogelwch amrywio o fewn yr ardal etholiadol a gall fod angen i chi ddefnyddio dull gwahanol mewn achosion penodol.