Rhaid i ymgeiswyr gydsynio i'w henwebiad yn ffurfiol a chyflwyno eu cydsyniad erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Nid yw'r ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi'i rhagnodi, ond mae'r cynnwys gofynnol wedi'i nodi mewn cyfraith.1
Rhaid i'r ffurflen gynnwys:
dyddiad geni'r ymgeisydd
datganiad ei fod yn ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975
datganiad nad ydyw, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin
datganiad nad yw'n ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer unrhyw etholaeth Senedd y DU arall ar yr un diwrnod pleidleisio
Mater i'r ymgeisydd yw sicrhau nad yw'n cael ei wahardd rhag sefyll. Ni allwch chi na'r Comisiwn gadarnhau a yw ymgeisydd wedi'i anghymhwyso ai peidio.
Ni chaiff ymgeiswyr lofnodi eu ffurflenni cydsynio yn gynharach nag un mis calendr cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno eu papurau enwebu.
Rhaid i rywun arall dystio'r cydsyniad, ond nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r cydsyniad i'r enwebiad.
Mae eithriad i'r gofyniad bod yn rhaid i'r cydsyniad gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig ac yn bersonol. Gallwch fod yn fodlon, am nad yw'r ymgeisydd yn y DU, nad yw'n rhesymol ymarferol iddo roi ei gydsyniad yn ysgrifenedig. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch drin cydsyniad ymgeisydd a roddir drwy e-bost neu ddogfen wedi'i sganio a anfonir yn electronig neu drwy ddull cyfathrebu tebyg arall, fel cydsyniad ysgrifenedig. Tybir bod y cydsyniad wedi'i roi ar y dyddiad y caiff ei anfon, ac nid oes angen i neb ei ardystio.2