Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ffurflen cyfeiriad cartref

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cyfeiriad cartref. Rhaid i'r ffurflen hon gael ei chyflwyno yn bersonol gan y sawl a all gyflwyno'r ffurflen enwebu ac erbyn i'r enwebiadau gau. Nid yw'r ffurflen wedi'i rhagnodi ond mae'r wybodaeth y mae angen ei darparu wedi'i nodi mewn deddfwriaeth.1  

Rhaid i'r ymgeisydd nodi ei enw a'i gyfeiriad cartref ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Nid oes angen i'r cyfeiriad fod yn yr etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu sefyll.

Y cyfeiriad cartref:

  • rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
  • ni ddylai gynnwys talfyriadau
  • rhaid mai ei gyfeiriad cartref cyfredol ydyw 
  • ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fydd yr ymgeisydd yn rhedeg busnes o'i gartref)

Os bydd unrhyw ran o fanylion y cyfeiriad cartref yn anghywir neu wedi'i hepgor, ni fydd yr enwebiad yn annilys yn awtomatig os yw'r disgrifiad o'r lle yn un a ddeellir yn gyffredin.

Mae'r Comisiwn wedi creu ffurflen cyfeiriad cartref fel rhan o'i set o bapurau enwebu y gallwch ei rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid. 

 

Mae'r ffurflen cyfeiriad cartref, ynghyd â'r ffurflen enwebu, ar gael i'w harchwilio gan y bobl hynny y mae hawl ganddynt i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu. 

Ymgeiswyr nad ydynt am i gyfeiriad eu cartref gael ei gyhoeddi

Gall ymgeisydd ofyn am i'w gyfeiriad beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio. 

Yn yr achos hwn, bydd y ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys y canlynol, yn ogystal â'r enw llawn a chyfeiriad y cartref:2  

  • datganiad, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy'n nodi nad yw am i gyfeiriad ei gartref fod ar gael i'r cyhoedd 
  • os yw ei gyfeiriad cartref yn y DU, yr etholaeth Senedd y DU neu'r ardal berthnasol y mae ei gyfeiriad cartref wedi'i leoli ynddi
  • os yw'n byw y tu allan i’r DU, y wlad y mae ei gyfeiriad cartref wedi’i leoli ynddi

Os na fydd yr ymgeisydd am i gyfeiriad ei gartref ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio, rhaid nodi'r etholaeth lle lleolir ei gartref neu, os yw'n byw y tu allan i'r DU, y wlad lle mae'n byw yn lle hynny.

Os, erbyn diwedd y cyfnod enwebu, bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi gofyn am i gyfeiriad ei gartref beidio â chael ei gyhoeddi, rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch. Os byddwch yn ystyried mai dyma yw'r achos, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen enwebu fel sy'n briodol, yn eich barn chi, i leihau'r tebygrwydd o ddryswch.3   
   
Cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys, rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny. Yna rhaid i chi eu hysbysu'n ysgrifenedig am yr wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.

Ystyr ardal berthnasol yw 

Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Nghymru:

  • os yw’r cyfeiriad o fewn sir, y sir honno;o
  • os yw’r cyfeiriad o fewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno.

Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn Lloegr:

  • os yw’r cyfeiriad o fewn dosbarth y mae cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw; 
  • os yw’r cyfeiriad o fewn sir lle nad oes unrhyw ddosbarthau â chynghorau, y sir honno; 
  • os yw’r cyfeiriad o fewn bwrdeistref yn Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain; 
  • os yw'r cyfeiriad o fewn Dinas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain; 
  • os yw'r cyfeiriad o fewn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili.

Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn yr Alban:

  • yr ardal llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddi.

Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Ngogledd Iwerddon:

  • y dosbarth llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddo.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mai 2024