Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ffurflen enwebu – Gofynion llofnodwyr

Mae'n rhaid i ffurflenni enwebu gynnwys arwydd o gefnogaeth i'r ymgeisydd gan 10 o etholwyr cofrestredig ar gofrestr Senedd y DU yn yr etholaeth. Gelwir y rhain yn llofnodwyr - y ddau gyntaf yw'r cynigydd a'r eilydd, tra bod wyth etholwr arall yn cefnogi'r enwebiad.1 Nid oes dim yn atal ymgeisydd rhag llofnodi ei enwebiad ei hun ar yr amod ei fod wedi'i gofrestru yn yr etholaeth. 

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i bob llofnodwr lofnodi'r ffurflen enwebu yn y man priodol a rhaid iddo gynnwys ei rif etholiadol yn y bylchau a ddarperir wrth ymyl ei lofnod, ynghyd â llythrennau adnabod y dosbarth etholiadol. 

Nid oes rhaid i lofnodwr roi ei enw ar ffurflen enwebu Senedd y DU. 

Pan fydd ffurflen enwebu wedi'i chyflwyno'n ffurfiol, hyd yn oed os caiff ei phennu'n annilys yn ddiweddarach, bydd llofnodion yn dal i gyfrif tuag at yr un ffurflen y caiff y llofnodwr ei llofnodi.

Os caiff etholwr ei dynnu oddi ar y gofrestr yn ddiweddarach neu os bydd farw cyn yr etholiad (neu yn wir cyn i'r enwebiad gael ei gyflwyno hyd yn oed), bydd ei lofnod yn ddilys o hyd ac nid effeithir ar yr enwebiad.

Gall unigolyn a ddangosir ar y gofrestr fel rhywun sydd o dan 18 oed pan wneir yr enwebiad ond llofnodi ffurflen enwebu os bydd yn 18 oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio.

Dim ond y 10 llofnodwr cyntaf ar unrhyw bapur enwebu y gellir eu hystyried. Os caiff mwy o lofnodwyr eu cynnwys, ni ddylid ystyried unrhyw enwau dilynol o gwbl. Os bydd un o'r 10 llofnodwr cyntaf yn annilys, waeth p'un a ychwanegwyd mwy o lofnodwyr i'r ffurflen enwebu ai peidio, mae'n rhaid ystyried bod yr enwebiad yn annilys o hyd.

Ni all llofnodwyr dynnu llofnodion ar ffurflenni enwebu yn ôl, unwaith y byddant wedi'u rhoi. Os bydd llofnodwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod yn dymuno tynnu ei lofnod yn ôl, dylech ei hysbysu na chaniateir hyn yn ôl y gyfraith a bod y llofnod yn ddilys o hyd.

Rhaid i chi wrthod enwebiad os na lofnodwyd y ffurflen enwebu yn ôl y gofyn.2  

Cadarnhau bod llofnodwyr ar y gofrestr 

Rhaid i lofnodwyr ymddangos ar y gofrestr etholiadol Seneddol sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl derbyn y gwrit). Mae'n hanfodol y defnyddir y fersiwn gywir o'r gofrestr er mwyn sicrhau bod y llofnodwyr yn ddilys. 

Ni ddylai etholwr lofnodi mwy nag un ffurflen enwebu yn yr etholiad Seneddol. Os bydd yn gwneud hynny, bydd ei lofnod ond yn ddilys ar y papur cyntaf a anfonir atoch, hyd yn oed os nad hwn oedd y papur cyntaf a lofnodwyd.3  

Dylai fod gennych system gadarn ar waith er mwyn sicrhau na fydd unrhyw etholwr yn llofnodi mwy nag un ffurflen enwebu. Dylech ddefnyddio copi caled o'r gofrestr a'r system rheoli etholiadol er mwyn lleihau'r risg o fethu â nodi llofnodwr sydd wedi llofnodi mwy nag un ffurflen, a marcio'r copi caled o'r gofrestr â llaw pan gaiff enwebiadau eu cyflwyno'n ffurfiol. 

Gan fod yn rhaid i chi dderbyn y ffurflen enwebu ar ei golwg, rhaid i chi dderbyn mai llofnod yr unigolyn a restrwyd ar y gofrestr o dan y rhif etholwr perthnasol yw'r llofnod ar y ffurflen enwebu, hyd yn oed os yw'r llofnod yn awgrymu enw arall. Gallwch dynnu sylw'r unigolyn sy'n cyflwyno'r papur at hyn os ydych yn pryderu, ond, rhaid i chi dderbyn y rhif etholwr a'r llofnod ar eu golwg. Os bydd gennych bryderon o hyd ar ôl codi'r mater, dylech hysbysu eich Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu (SPOC).

 

Enwau llofnodwyr wedi'u croesi allan  

Yn achlysurol gwneir camgymeriad ac efallai y bydd enw un neu fwy o'r llofnodwyr wedi'i groesi allan. Os caiff y llofnod a'r rhif etholwr ar gyfer llofnodwr eu croesi allan yn glir, dylech ei anwybyddu a'i drin fel pe na bai'r rhes yn ymddangos o gwbl. Os gofynnir i chi, dylech nodi y dylai unrhyw beth sydd wedi'i groesi allan fod yn glir, ac yn ddelfrydol, wedi'i lofnodi â blaenlythrennau. 

Ni ddylech groesi allan unrhyw gofnod. Os oedd y cofnod a oedd wedi'i groesi allan yn gofnod gan gynigydd neu eilydd, yna dylid nodi'r cynigydd neu'r eilydd newydd. Lle y bydd cofnod wedi'i groesi allan, mae'n rhaid i'r deg llofnodwr cyntaf ac eithrio'r cofnod hwnnw fod yn ddilys o hyd er mwyn i'r enwebiad fod yn ddilys.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023