Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ernes i sefyll etholiad

Er mwyn cael ei enwebu'n ddilys, rhaid i ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd hefyd roi ernes o £500 i chi erbyn diwedd y cyfnod enwebu.1  

Mae'n rhaid i chi dderbyn ernesau a wneir gan ddefnyddio:

  • arian cyfreithlon (arian parod mewn punnoedd Sterling yn unig) 
  • drafft banc yn y DU 

Gallwch wrthod derbyn drafft banc os nad ydych yn gwybod a yw'r tynnwr yn cynnal busnes fel bancwr yn y Deyrnas Unedig.

Gallwch hefyd ddewis derbyn cyllid ar ffurf:

  • siec cymdeithas adeiladu
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • trosglwyddiad electronig 

Dylech dderbyn sieciau cymdeithas adeiladu os yw'n cynnal busnes yn y Deyrnas Unedig. Dylech hefyd dderbyn taliadau banc, sef gorchmynion a gyhoeddir gan fanc, sy'n gwarantu taliad i'r derbynnydd. Os byddwch yn penderfynu derbyn unrhyw rai o'r dulliau hyn dylech eu rhestru ar yr hysbysiad etholiad ac egluro unrhyw ofynion sydd gennych yn y pecyn enwebu.  

Os caiff yr ernes ei rhoi i chi gan rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd, rhaid i'r unigolyn sy'n cyflwyno'r ernes roi ei enw a'i gyfeiriad i chi, oni fydd wedi darparu'r wybodaeth hon eisoes fel rhan o'i hysbysiad o benodiad fel asiant etholiad.

Rhaid i chi ddychwelyd yr ernes at yr unigolyn a'i gwnaeth neu, os yw wedi marw, ei gynrychiolydd personol, o dan yr amgylchiadau canlynol: 

  • mae'r ymgeisydd yn tynnu ei enw yn ôl cyn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny
  • rydych yn gwrthod enwebiad ymgeisydd ac ni nodir ei fod wedi'i enwebu'n ddilys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
  • mae'r ymgeisydd yn marw a rhoddwyd prawf o hynny i chi cyn i chi orffen y broses gyfrif gyntaf2  

Os oes ffi ynghlwm wrth ddull o dalu, gallwch ei throsglwyddo i'r ymgeisydd. Os felly, dylech nodi hyn yn glir ar yr hysbysiad etholiad a'r pecyn enwebu. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023